Covid-19: Tynnu Portiwgal oddi ar restr werdd teithio rhyngwladol
Covid-19: Tynnu Portiwgal oddi ar restr werdd teithio rhyngwladol
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi fod Portiwgal wedi cael ei thynnu oddi ar y rhestr werdd ar gyfer teithio tramor.
Mae system oleuadau traffig wedi bod mewn grym ar gyfer teithio rhyngwladol ers tair wythnos bellach, a dyma'r adolygiad cyntaf ers hynny.
Bydd Portiwgal nawr yn perthyn i’r rhestr oren, yn sgil pryderon am y sefyllfa iechyd cyhoeddus ac amrywiolion Covid-19.
Fe fydd y newid yn dod i rym am 04:00 fore dydd Mawrth, 8 Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai ei neges yw i bawb dreulio eu gwyliau adref.
Mae’r penderfyniad i symud Portiwgal i’r rhestr oren yn deillio o bryderon am amrywiolyn Delta, a gafodd ei adnabod yn wreiddiol yn India.
Mae pryderon y gall teithwyr o Bortiwgal helpu i ymledu amrywiolion o Covid-19 os nad oes rheolau yn eu lle sy’n gorfodi teithwyr i hunan-ynysu ar ôl dychwelyd.
Cafodd saith gwlad arall - gan gynnwys Sri Lanka a’r Aifft – eu hychwanegu i’r rhestr goch.
Wrth gyhoeddi’r newid, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps:
“Mae’r cyhoedd wastad wedi deall y bydd teithio yn wahanol eleni, ac mae’n rhaid i ni gymryd camau gofalus er mwyn ail-agor teithio rhyngwladol mewn ffordd sy’n gwarchod iechyd cyhoeddus a’r cynllun brechu.
“Tra'n bod ni’n gwneud cynnydd arbennig yn y Deyrnas Unedig gyda’r cynllun brechu, rydym ni’n parhau i ddweud na ddylai’r cyhoedd deithio tu hwnt i leoliadau sydd ar y rhestr werdd.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein neges yn glir – dyma’r flwyddyn i dreulio gwyliau gartref.
“Rydym yn galw ar bobl i deithio dramor ar gyfer rhesymau hanfodol yn unig.
“Rydym ni gyd wedi aberthu gymaint er mwyn rheoli’r pandemig yng Nghymru, ac nid ydym eisiau gweld y feirws yn cael ei allforio unwaith eto i’r wlad – na gweld amrywiolion newydd yn dod i mewn i’r wlad, o ganlyniad i deithio rhyngwladol.”
Y saith gwlad sy’n cael ei hychwanegu i’r rhestr goch yw:
- Afghanistan
- Bahrain
- Costa Rica
- Yr Aifft
- Sri Lanka
- Sudan
- Trinidad a Tobago
Fe fydd y system yn cael ei hadolygu gan Lywodraeth y DU bob tair wythnos.