Teulu William Gladstone i deithio i'r Caribî i ymddiheuro am ei ran mewn caethwasiaeth
Mae disgwyl i deulu William Gladstone, y prif weinidog o Oes Fictoria, deithio i’r Caribî i ymddiheuro am y rhan hanesyddol a chwaraeodd yn y fasnach gaethweision yno.
Roedd William, a oedd yn brif weinidog Rhyddfrydol bedair gwaith yn y 19eg ganrif, yn fab i John Gladstone - un o'r perchnogion caethweision mwyaf yn y Caribî.
Dywedodd Charlie Gladstone, llywydd Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, a gor-or-or-ŵyr John, ei fod yn “teimlo’n hollol sâl” pan ddaeth i wybod am orffennol ei deulu o fod yn berchen ar gaethweision.
Mae disgwyl iddo ef a phum aelod arall o’r teulu deithio i Guyana yn Ne America i ymddiheuro am berchnogaeth John o gaethweision o Affrica, yn ôl The Observer.
Dywedodd Charlie Gladstone: “Cyflawnodd John Gladstone droseddau yn erbyn dynoliaeth. Mae hynny’n gwbl glir.
“Y gorau y gallwn ei wneud yw ceisio gwneud y byd yn lle gwell ac un o’r pethau cyntaf yw gwneud yr ymddiheuriad hwnnw ar ei ran.
“Roedd yn ddyn drwg. Roedd yn farus ac yn ormesol. Does gennym ni ddim esgusodion drosto.”
Y gred yw eu bod hefyd yn bwriadu talu iawndal i ariannu ymchwil pellach i effaith caethwasiaeth.
Masnachwr o'r Alban oedd John Gladstone a wnaeth ffortiwn fel plannwr siwgr Demerara ac roedd ganddo gannoedd o gaethweision yn gweithio mewn planhigfeydd.
Gwrthryfel
Dechreuodd gwrthryfel 1823 yn Demerara, trefedigaeth Brydeinig a ddaeth yn rhan o Guyana yn ddiweddarach, ar un o blanhigfeydd Gladstone, gyda rhai haneswyr yn dadlau bod gan ei weithredoedd treisgar ran i'w chwarae wrth ddod â chaethwasiaeth i ben.
Ar ôl i gaethwasiaeth gael ei diddymu ym 1833, derbyniodd John y taliad iawndal mwyaf a wnaed gan y Comisiwn Iawndal Caethweision – tua £93,000, sy’n cyfateb i tua £10 miliwn heddiw.
Ym 1831, defnyddiodd William Gladstone ei araith gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin i ddadlau o blaid iawndal i berchnogion caethweision.
Ond erbyn 1850, dywedodd ei deulu ei fod yn “ddyn wedi newid”, gyda’r cyn-arweinydd yn disgrifio caethwasiaeth fel “y drosedd fwyaf aflan o bell ffordd sy’n llygru hanes dynolryw”.
Mae’r teulu Gladstone yn bwriadu gwneud eu hymddiheuriad swyddogol yn agoriad Sefydliad Rhyngwladol Astudiaethau Ymfudo a Diaspora Prifysgol Guyana.
Galwodd Rob Gladstone, brawd Charlie, ar Lywodraeth y DU i ddechrau “gwneud cyfiawnder iawn” drwy ymddiheuro am gaethwasiaeth o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig.
Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi gwrthod ymddiheuro am rôl y DU mewn caethwasiaeth.