Newyddion S4C

Y Springboks yn rhoi crasfa i Gymru yng Nghaerdydd

19/08/2023

Y Springboks yn rhoi crasfa i Gymru yng Nghaerdydd

Fe gollodd Cymru'n drwm yn erbyn y Springboks yn Stadiwm Principality o 16-52 mewn gêm oedd wedi'i rheoli'n llwyr gan yr ymwelwyr brynhawn dydd Sadwrn. 

Dyma oedd sgôr uchaf De Affrica yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd erioed.

Roedd yr wythwr Jac Morgan yn gapten ar Gymru am yr eildro yn ei yrfa ac roedd y cefnwr Cai Evans yn ennill ei gap gyntaf.

Roedd hi’n ddechrau cyfforddus i’r Springboks yn y brifddinas yn y munudau cyntaf o'r chwarae.

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl pedwar munud wrth i’r bachwr Malcolm Marx groesi’r llinell.

Er i Gymru ddod yn agos at linell gais y Springboks, fe wnaeth amddiffyn cryf yr ymwelwyr achosi’r crysau cochion i roi sgrym i’r ymwelwyr.

Llwyddodd Cymru i fynd ar y blaen am gyfnod wrth i’r maswr Sam Costelow lwyddo i gicio’r bêl rhwng y pyst am yr eildro yn ystod yr hanner cyntaf.

Ond nid oedd gan Gymru fantais yn hir, wrth i Snyyman, ail-reng De Affrica, fanteiso ar y gwagle ac anelu am y linell gais.

Cyrhaeddodd y bêl ddwylo’r asgellwr Moodie rhwng amddiffyn dibrofiad y tri o’r pum blaen i Gymru.

Cafwyd sbel o oedi ar y cae yn aros i swyddogion TMO benderfynu ar weithred Rio Dyer. Yn y pen draw fe ddaeth y penderfyniad ei fod wedi bwrw’r bêl allan o ddwylo yn fwriadol. Fe dderbyniodd gerdyn melyn a rhoddwyd cais cosb i’r Boks o ganlyniad.

Yna fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru. Fe wnaeth Mason Grady ddadlwytho’r bel i ddwylo Moodie, i’w helpu sgorio ei ail gais o’r gêm.

Croesodd y Springboks y llinell gais bedair gwaith yn ystod yr hanner gyntaf. Doedd y crysau cochion ddim mor fedrus. Ni lwyddodd Cymru i ddod yn agos at drosi yn y 40 munud cyntaf.

O ddrwg i waeth

Dechreuodd yr ail hanner yn nwylo’r Cymry ond ni lwyddon nhw i gadw’r meddiant na gwneud unrhwybeth yn iawn ar ôl yr egwyl.

Cafodd pas Hardy ei rhyngipio gan Steph du Toit, rheng ôl De Affrica, i gynnig cae gwag i'r canolwr. 

Ni lwyddodd yr asgellwr Tom Rogers i ddal i fyny gyda chanolwr y Springboks, ac fe ildwyd pumed cais i'r ymwelwyr.  

Llai na 10 munud wedyn, daeth eu chweched, ac yna fe ddechreuodd Cymru edrych yn llafurus.

Yna daeth ail rhyngipiad, y tro hwn i’r asgellwr Moodie, yn fuan wedyn ac fe lwyddodd i hawlio ei ail gais.

Roedd Cymru i lawr i 14 dyn am yr eildro, gyda Teddy Williams yn derbyn cerdyn melyn yn ystod ei gêm gyntaf dros ei wlad.

Tro y Springbocks oedd hi i dderbyn cerdyn melyn wedyn, gyda'r eilydd Damian Willemse yn mynd i'r cell cosb am weddill y gêm.

Fe ddaeth pwyntiau cyntaf Cymru o'r hanner ar ôl 72 munud pan groesodd Sam Parry y linell gais.

Ond nid oedd ymdrech Cymru yn ddigon, ac fe fydd yn wers boenus i'r crysau cochion wrth baratoi am gwpan y Byd yn Ffrainc fis nesaf.

Y sgôr terfynol: Cymru 16 - 52 De Affrica.

Dyma oedd y gêm olaf yng nghyfres yr Haf cyn i Warren Gatland gyhoeddi’r garfan fydd yn teithio i Ffrainc ar gyfer Cwpan y Byd.

Bydd modd gwylio’r cyhoeddiad yn fyw ar S4C ar ddydd Llun 21 Awst.

Llun: Asiantaeth Huw Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.