Y Parchedig Emlyn Richards wedi marw'n 92 oed
19/08/2023
Mae'r Parchedig Emlyn Richards wedi marw'n 92 oed yn dilyn cyfnod o salwch.
Yn enedigol o Ben Llŷn, treuliodd ei blentyndod yn Sarn Mellteyrn, gan weini ar ffermydd yr ardal pan yn ifanc.
Symudodd i Ynys Môn yn ddiweddarach ar ôl ymuno gyda'r Weinidogaeth gan fagu gwreiddiau dwfn yng Nghemaes ar yr ynys.
Roedd yn ymgyrchydd brwd dros heddwch a'r Gymraeg yn ystod ei fywyd ac yn aelod amlwg o'r ymgyrch gwrth-niwclear.
Fe ysgrifennodd nifer o gyfrolau, gan gynnwys 'O'r Lôn i Fôn', 'Ffarmwrs Môn 1800-1914', 'Potsiars Môn', 'Sgyrsiau Noson Dda' a 'Cofio'r Wylfa'.
Roedd yn llais cyfarwydd ar donfeddi'r radio ac ar y teledu.
Llun: Rhys Llwyd