Newyddion S4C

Elusen Beiciau Gwaed Cymru yn derbyn Gwobr y Frenhines

ITV Cymru 03/06/2021

Elusen Beiciau Gwaed Cymru yn derbyn Gwobr y Frenhines

Mae elusen Beiciau Gwaed Cymru wedi derbyn Gwobr y Frenhines am ei gwaith gwirfoddoli a’i gwasanaeth i’r gymuned yn ystod y pandemig. Dyma'r wobr uchaf a roddir i sefydliadau elusennol. 

Ar wythnos gwirfoddolwyr, mae’r grŵp yn un o 15 o elusennau i dderbyn yr anrhydedd ac yn sefydliad sy’n debygol ar wirfoddolwyr yn unig.

Mae'r elusen yn darparu gwasanaeth cludo gwaed, samplau, meddyginiaethau, offer meddygol ac eitemau eraill ledled Cymru a thu hwnt. Nod y wobr yw cydnabod gwaith rhagorol gan grwpiau gwirfoddol er budd eu cymunedau lleol.

Mae'r sefydliad gwirfoddoli gyda dros 470 o aelodau yn gweithio am ddim, ac er gwaethaf y pandemig, mae'r elusen wedi llwyddo i barhau i gynnal ei gwasanaeth. 

Dywedodd Graham Jones, un o wirfoddolwyr y Beicio Gwaed Cymru, fod cydnabyddiaeth i'w waith yn "hyfryd".

"Dim ond y bore 'ma ffeindiais i mas bod ni yn derbyn y wobr ac fel ni'n dweud, ni ddim yn gwirfoddoli ar gyfer gwobrau," dywedodd Mr Jones.

"Ond pan mae rhywun yn rhoi un i chi mae yn hyfryd i gael e, ac mae'n neis i wybod bod rhywun yn cydnabod yn swyddogol y gwaith 'dy ni'n neud. 

"Mae 'na dros 470 o aelodau a dim ond hanner o rheina sy'n yrwyr beic, so mae dros hanner o'n haelodau ni yn bobl sydd ddim yn gyrru beic, maen nhw'n bobl sy' jyst eisiau helpu."

“Mae pawb yn dweud bod ni’n heroes, ond ni’n mynd rhwng yr ysbytai a gweld y gwaith ma nhw’n neud a ni jyst yn falch bod ni’n gallu neud rhywbeth bach i helpu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.