Newyddion S4C

Buddsoddi dros £25 miliwn mewn offer ar gyfer y GIG

ITV Cymru 03/06/2021

Buddsoddi dros £25 miliwn mewn offer ar gyfer y GIG

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o dros £25 miliwn mewn offer diagnostig ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Gobaith y llywodraeth yw bydd y buddsoddiad yn cynorthwyo gydag adferiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi'r pandemig. 

Bydd gwasanaethau canser yn derbyn hwb sylweddol, gyda buddsoddiad newydd mewn offer sy'n cynnwys sganwyr CT a chamerâu gama.

Fel rhan o'r buddsoddiad, fe fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn derbyn £5.5m tuag at efelychydd CT, sy’n rhoi gwasanaeth cynllunio triniaeth 3D ar gyfer cleifion canser.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “'Yn ni'n buddsoddi £25 miliwn heddiw mewn peiriannau sydd yn mynd i helpu ni i sicrhau bod pobl yn cael diagnosis o ganser cyn gynted â sy'n bosibl. 

"Bo' ni'n gallu gweld yn union ble mae'r canser a bod ni yn gallu rhyddhau mwy o bobl oddi wrth y rhestri aros yna. 

"Ma' hwn yn holl bwysig ar hyn o bryd oherwydd ma' 'na lot o bobl - tua 30,000 yn llai o bobl wedi dod ymlaen yn dweud bod canser arnyn nhw i gymharu gyda blynyddoedd cynt felly 'y ni'n gwbod bydd pobl falle yn dod ymlaen pan fod y canser wedi datblygu yn fwy na dyle hi fod wedi, ac felly dyna pan mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn y peiriannau yma." 

Llun: Llywodraeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.