Gwasanaeth iechyd Cymru yn wynebu cyfnod 'ofnadwy o anodd' oherwydd toriadau ariannol
Gwasanaeth iechyd Cymru yn wynebu cyfnod 'ofnadwy o anodd' oherwydd toriadau ariannol
Mae gwasanaeth iechyd Cymru yn wynebu cyfnod "ofnadwy o anodd” wrth iddo orfod dod o hyd o arbedion, yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Dywedodd Eluned Morgan nad oedd “digon o arian yn y system i gynnig y gwasanaeth ydan ni wastad wedi cynnig”.
“Bydd rhaid i ni gael trafodaeth anodd iawn gyda’r cyhoedd wrth ynglŷn â’r arbedion sydd angen eu gwneud,” meddai.
Un bwrdd iechyd sy'n wynebu toriadau yw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sy'n gwasanaethu y gogledd.
Ar hyn o bryd mae'n gorwario tua £140m y flwyddyn.
Dywedodd Mark Drakeford yn gynharach yr wythnos hon fod Llywodraeth Cymru yn wynebu'r "sefyllfa ariannol fwyaf heriol" ers datganoli.
Dywedodd Eluned Morgan y bydd “angen i’r arbedion gael eu gwneud” a bydd angen iddyn nhw gael eu gwneud “yn fuan”.
Mae’r llywodraeth wedi gofyn i'r bwrdd iechyd dod o hyd arbedion o hyd at 30% o gyfanswm y gorwariant yna.
Mae hynny'n golygu arbedion o hyd at £45m.
‘Proses’
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr Dyfed Edwards ei fod yn mynd i fod yn “gyfnod anodd”.
Roedd angen sicrhau nad oedd toriadau yn "effeithio ar wasanaethau rheng flaen," meddai.
Siaradodd hefyd am yr her o drawsnewid y bwrdd iechyd y tu hwnt i’r gwariant.
“Mae’n mynd i fod yn broses wrth gwrs, dio ddim yn mynd i ddigwydd dros nos,” meddai.
“Ond, y cam cynta’ ydy adnabod be ydy’r problemau, a dwi’n credu ‘da ni ‘di dechrau ar y daith yna,” meddai.
“A ma’ hynny’n cynnwys materion fel newid diwylliant, y ffordd o weithio, cofleidio newid, a bod yn gadarnhaol a bod yn garedig wrth ein gilydd.
“A dwi’n credu bod ‘na arwyddion bod ni’n dechrau symud pethau ymlaen, ond mae’n mynd i fod yn broses wrth gwrs.”