Gwrthbleidiau Israel yn cynnig llywodraeth newydd i ddisodli Netanyahu

Mae’r gwrthbleidiau yn Israel wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dod i gytundeb i greu llywodraeth newydd, a fyddai’n gweld cyfnod Benjamin Netanyhau fel prif weinidog yn dirwyn i ben.
Nos Fercher, daeth cadarnhad gan arweinydd yr wrthblaid, Yair Lapid, ei fod ef wedi dod i gytundeb a fyddai’n gweld cyfuniad o bleidiau yn arwain y wlad.
Mae Sky News yn adrodd fod y pleidiau wedi’u huno gan un mater, sef disodli Netenyhau fel arweinydd.
Fe fyddai’r cynllun arfaethedig yn gweld arweinydd y blaid Yamina, Naftali Bennett, yn cael ei ethol fel prif weinidog am ddwy flynedd, cyn trosglwyddo’r awenau i Mr Lapid.
Bydd angen pleidlais seneddol cyn i’r llywodraeth newydd gael tyngu llw.