Newyddion S4C

Cowbois Rhos Botwnnog: 'Braf bod ar lwyfan eto'

Cowbois Rhos Botwnnog: 'Braf bod ar lwyfan eto'

Bydd Cowbois Rhos Botwnnog yn cloi'r arlwy ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan nos Wener, ac ar ôl cyfnod heb berfformio, mae hi'n 'braf bod ar lwyfan eto' yn ôl prif leisydd y band.

Wrth siarad ar Faes yr Eisteddfod, dywedodd Iwan Huws fod y band poblogaidd wedi bod yn prysur baratoi at un o uchafbwyntiau eu blwyddyn hyd yn hyn.

"Ma’i ‘di bod reit dda hyd yma, ‘dan ni ‘di chwara gigs cymdeithas nos Lun, Tŷ Gwerin ddoe, ma’ nhw wedi bod yn mynd yn dda.

"Bach o sioc i’r system neud gymaint ar ôl cyfnod mor hir o beidio neud gymaint so ma’ hynny yn bach o sioc i’r system ond ma’ hi’n braf bod ar lwyfan eto," meddai.

"'Dan ni 'di bod yn ymarfar ers rhai misoedd bellach, o'dd hi 'di bod yn hir, 'dan ni 'di gorfod ymarfar achos fel arfar 'dan ni ddim yn trafferthu felly ar bapur, mi ddyla ni fod yn oce.

"'Dan ni 'di cal cyfle efo'r gigs erill i gal 'chydig o'r rhwd oddi arna ni cyn Llwyfan y Maes nos Wener, gobeithio."

'Edrych ymlaen'

Dyma'r bwlch hiraf heb berfformio ers bron i 20 mlynedd meddai Iwan, ac mae dod i arfer gigio yn gyson eto yn gallu bod yn heriol. 

“Ma hi’n bach o jolt de.

"Ma’ rywun yn gorfod ail-ddysgu petha o’n i’n meddwl o’n i’n gofio a meddwl fydd hynna ddim problem a wedyn ma’r petha bach yn mynd yn angof a wedyn ma’ rywun yn anghofio rhai o’r petha bach pan ma rywun yn chwara bob penwsos ond ti’n dod yn ôl fewn iddi.

"Ond ia, profiad gwahanol, achos hwn di’r bwlch hiraf da ni ‘di gal heb chwara ers bron i 20 mlynedd.

“Edrych ymlaen yn arw, y gig ‘ma ar Llwyfan y Maes ma siwr ydi uchafbwynt ein haf ni, ma’i ‘di teimlo bach fel bod y gigs erill wedi bod yn arwain at hynny ond bach yn nerfus am y peth deud gwir.

"Dwi’m yn mynd yn nerfus fel arfar ond rhwng bod ‘na fwlch mor hir a bod o ym Mhen Llyn so teimlo fo bach, ond dwi’m yn meddwl bod hynna yn beth drwg."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.