Cynllun incwm sylfaenol i weithwyr y celfyddydau yn Iwerddon

Iwerddon
Bydd Llywodraeth Iwerddon yn treialu cynllun incwm sylfaenol ar gyfer artistiaid a gweithwyr y celfyddydau.
Daw hyn fel rhan o ymdrech i adfer economi'r wlad wedi'r pandemig.
Roedd gwariant incwm sylfaenol yn un o brif awgrymiadau adroddiad 'Bywyd Gwerth ei Fyw' gan y Gweithlu Adfer Celfyddydau a Diwylliant, yn ôl The Irish Times.
Mae'r Gweinidog Diwydiant, Catherine Martin, wedi dweud y bydd hi'n datblygu argymhellion ar gyfer y cynllun peilot erbyn mis Gorffennaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: raffaelsergi1977