Merch o Hong Kong yn dyfeisio gêm Gymraeg
08/08/2023
Merch o Hong Kong yn dyfeisio gêm Gymraeg
Mae merch ifanc sydd yn byw yn Hong Kong wedi dyfeisio gêm ar y we yn y Gymraeg.
Mewn cyfweliad â Tudur Owen ar faes yr Eisteddfod, disgrifiodd Menna sut i chwarae'r gêm sy’n debyg iawn i’r ap Saesneg ‘Worldle’.
Mae Menna yn ymweld â’r Eisteddfod o Hong Kong gyda’i theulu, sydd i gyd yn siaradwyr Cymraeg newydd.
“’Da ni’n byw yn Hong Kong,” meddai Menna.
“Mae’r gêm y gêm Saesneg 'Worlde' ond yn Gymraeg, enw fo ydi Geiryn ac mae dad wedi helpu fi i greu'r gêm.”
Mae Menna wedi cael addysg o adref ac roedd creu'r gêm yn rhan o’i gwaith addysgol yn Hong Kong.
Mae modd i unrhyw un chwarae'r gêm drwy fynd i wefan Geiryn.com