Newyddion S4C

Archdderwydd yn disgrifio'r DU fel ‘gwladwriaeth flêr’ 

Archdderwydd yn disgrifio'r DU fel ‘gwladwriaeth flêr’ 

Mewn araith ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun fe wnaeth yr Archdderwydd droi ei sylw at rai o bynciau llosg gwleidyddiaeth yng Nghymru, gan ddisgrifio'r Deyrnas Unedig fel “gwladwriaeth flêr”.

Wrth drafod pwysigrwydd yr Eisteddfod aeth ymlaen i drafod yr argyfwng tai.

“Un o’r pethau ‘da ni’n gwybod sy’n cael effaith mawr ar nifer yr ardaloedd yng Nghymru heddiw yw diffyg tai i bobl leol. Fel mae’r ymgyrch Hawl i Fyw Adra yn llwyddo i’n hargyhoeddi ni, mae hyn yn amlwg iawn yn Llŷn ac Eifionydd,” meddai Myrddin ap Dafydd, yr Archdderwydd. 

“All ein gweithwyr allweddol ni gan gynnwys doctoriaid ag athrawon ddim fforddio pris y tai yn y dalgylch.”

Dywedodd mai “anghydraddoldeb” yw gwendid mawr gwladwriaeth y DU, “gyda’r llywodraeth ganolog yn Llundain yn rheoli’r penderfyniadau allweddol o hyd.”

Roedd yr Archdderwydd yn cyfeirio ar anghydraddoldeb cyfoeth y wladwriaeth gan gyfeirio at y Teulu Brenhinol. 

“Mae 10% o’r boblogaeth, sef y teuluoedd cyfoethocaf yn berchen ar hanner cant y cant o’r holl gyfoeth- a wyddom ni gyd pa deulu yw’r cyfoethocaf un o’r 10 % rheini. 

“Ac mae 65% o arfordir Cymru yn eiddo i stad y goron, nid bobl Cymru. Mae ymerodraeth y goron yng Nghymru yn llawer mwy na hynny, yn cynnwys ffermydd, coedwigoedd, canolfannau siopau, ffermydd ynni gwynt, gwlâu afonydd a moroedd. Mae gwerth asedau y goron ar arfordir Cymru yn unig wedi codi o hanner can miliwn yn 2020 i dros chwe chan miliwn yn 2022.”

Fe aeth ymlaen i son fentrau a phrosiectau cymunedol yng Nghymru, ac annog pobl i gefnogi. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.