Galw am fwy o gymorth i gleifion anghenion arbennig yng Nghymru

ITV Cymru

Mae elusennau yng Nghymru yn galw am driniaeth a gofal ar gyfer pobl sydd ag anghenion arbennig ac anableddau dysgu i fod yn agosach i’w cartrefi, yn hytrach na channoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Mae’r galwadau yn dod ddegawd wedi'r sgandal gofal mawr, Winterbourne.

Fe wnaeth y sgandal daflu goleuni ar Unedau Asesu a Thrin (UATs) yn y DU ar ôl i ofalwyr mewn ysbyty preswyl ym Mryste gam-drin pobl ag anabledd dysgu. Mae'r uned bellach wedi cau.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd gwasanaethau mor agos i'w cartrefi â phosib.

Image
Winterbourne
Mae’n ddegawd ers y sgandal gofal mawr, Winterbourne

Yn aml, mae Unedau Asesu a Thrin wedi'u lleoli cannoedd o filltiroedd i ffwrdd o gartrefi’r cleifion, ac ar ôl Winterbourne roedd galwadau i symud pobl yn ôl i’w cymunedau lleol i gael gofal.

Nawr, mae sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys elusen Mencap, yn galw ar weinidogion i sicrhau bod pob claf ag anabledd dysgu sy'n cael eu cartrefu mewn unedau triniaeth yn cael mynediad i gartrefi a gwasanaethau yn agosach at eu teuluoedd a'u cymunedau.

"Mae Mencap Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros wasanaethau yn agosach i gartrefi’r cleifion, sydd, yn ein barn ni, nid ond yn cefnogi canlyniadau gwell a bywydau hapusach i bobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd, ond hefyd yn ail-fuddsoddi adnoddau trwy gadw sgiliau arbenigol yng Nghymru" meddai Wayne Crocker o Mencap Cymru.

"Mae gan bobl ag anableddau dysgu a gofalwyr teulu mewnwelediad unigryw i'r hyn sy'n gwneud ansawdd bywyd da a sut y dylai cefnogaeth dda edrych. Mae angen defnyddio eu sgiliau a'u profiad."

Image
Ayla
Dyw Ayla, sy’n dod o Lansteffan, heb weld ei theulu ers dros flwyddyn oherwydd y pandemig.

Mae Ayla Haines o Lansteffan yn Sir Gaerfyrddin yn un sydd gydag anghenion cymhleth iawn. Mae ei mam, Jane, a'i mam-gu, Judy, yn credu bod ganddi awtistiaeth, ond sydd heb gael diagnosis.

Mae Ayla wedi treulio llawer o’i bywyd mewn unedau cannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’i chartref, ac mewn llythyr i’w mam mae wedi dweud ei bod hi’n “casáu ei bywyd”.

Mae’r teulu yn dweud nad ydyn nhw wedi gallu ei gweld ers dros flwyddyn oherwydd y pandemig, ac maent yn disgrifio’r sefyllfa fel “uffern”.

Image
Stori ITV

"Pan rydyn ni'n siarad ag Ayla ni’n ceisio ei hannog, ceisio rhoi gobaith iddi, ond fe gyrhaeddodd y pwynt lle dywedodd hi 'Dwi byth yn mynd i adael yma ydw i? Fydda i byth yn gweld Cymru eto’." meddai ei mam-gu Judy.

Fe wnaeth adolygiad y llynedd ddarganfod fod 169 o bobl o Gymru ag anabledd dysgu yn cael eu trin mewn unedau arbennig gyda 31 o rain mewn unedau yn Lloegr, gyda’r gost gofal yn rhedeg i'r miliynau.

Am fwy o gymorth cysylltwch gyda Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru ar 0808 8000 300.