Newyddion S4C

Ysgol feddygol newydd y gogledd yn cael caniatâd i ddechrau recriwtio myfyrwyr

31/07/2023
Ysgol Feddygol Bangor

Mae ysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru wedi cael caniatâd i ddechrau recriwtio myfyrwyr.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru sefydlu ysgol feddygol newydd, annibynnol ym Mhrifysgol Bangor yn 2021.

Fe wnaeth panel arbenigol o’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ymweld â champws Prifysgol Bangor yn gynharach ym mis Gorffennaf.

Maen nhw bellach wedi cadarnhau fod yr Ysgol yn barod i recriwtio myfyrwyr, a fydd yn dechrau ym mis Medi 2024.

Dywedodd Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor ei fod yn “newid sylweddol i Brifysgol Bangor ac i ogledd Cymru”.

“Mae tystiolaeth gref bod graddedigion meddygol yn dewis gweithio'n agos at le buont yn hyfforddi,” meddai.

“Bydd sefydlu’r Ysgol Feddygol yn helpu i droi’r gostyngiad yn nifer y meddygon teulu ar ei ben a mynd i’r afael â’r prinder yn y gweithlu ar draws y proffesiynau meddygol yn ein rhanbarth”.

‘Hwb enfawr’

Yn gynharach eleni, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru gyllid i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, gyda nifer cychwynnol o 80 o ymgeiswyr, gyda’r bwriad o gynyddu’r nifer yn flynyddol nes cyrraedd uchafswm o 140 erbyn 2029.

Dywedodd y brifysgol mai nod yr ysgol newydd fydd mynd i'r afael ag anghenion staffio gofal iechyd y rhanbarth trwy hyfforddi meddygon yn gyfan gwbl oddi fewn i’r rhanbarth.

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke bod sefydlu’r ysgol “yn un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol i’r sefydliad hwn, ac i iechyd a lles gogledd Cymru ers sefydlu’r brifysgol bron i 140 mlynedd yn ôl”.

“Drwy fynd i'r afael â’r ffaith na chafwyd erioed ysgol feddygol yn y rhanbarth, mae'r datblygiad hwn yn cryfhau ein darpariaeth gofal iechyd yn lleol trwy greu cyflenwad o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â dealltwriaeth o anghenion lleol tra hefyd yn cynyddu nifer y rhai sy'n gallu ymarfer yn y Gymraeg.

“Bydd yr Ysgol Feddygol hefyd yn rhoi hwb enfawr i’r economi leol ac yn helpu i sicrhau bod pobl Gogledd Cymru yn byw bywydau hwy, iachach a hapusach”.

Bydd sesiwn am Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ar stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ar Ddydd Mawrth, 8 Awst, rhwng 12:30 a 13:45.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.