Newyddion S4C

Y cyn-hyfforddwr a chwaraewr rygbi Clive Rowlands wedi marw yn 85 oed

30/07/2023

Y cyn-hyfforddwr a chwaraewr rygbi Clive Rowlands wedi marw yn 85 oed

Mae'r cyn-chwaraewr a hyfforddwr rygbi Clive Rowlands wedi marw'n 85 oed.

Yn ystod ei yrfa fe wnaeth chwarae dros Abercraf, Pont-y-pŵl (capten 1962-63), Llanelli ac Abertawe (capten 1967-68).

Wedi ymddeol aeth ymlaen i fod yn brif hyfforddwr Cymru rhwng 1968 a 1974.  Roedd yn hyfforddwr mewn 29 gêm gan ennill 18, colli saith a phedair yn gyfartal.

Ef oedd rheolwr tîm Cymru ar gyfer cwpan y byd cyntaf yn 1987 ac yn rheolwr taith y Llewod i Awstralia yn 1989.

Roedd yn Llywydd Undeb Rygbi Cymru yn 1989 ac fe gafodd ei dderbyn i Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn 2013.

Fe yw'r unig berson i fod yn gapten, hyfforddwr, rheolwr a llywydd dros dîm rygbi Cymru.

Cafodd ei eni ym mhentref Cwmtwrch Uchaf gan ennill 14 o gapiau dros Gymru fel mewnwr gyda phob un fel capten.  

Fe enillodd ei gap cyntaf yn 1963 yn y golled yn erbyn Lloegr ac arweiniodd Cymru i’r Goron Driphlyg yn 1965 a thlws persenoliaeth chwaraeon y flwyddyn BBC Cymru.

Yn y gêm Pum Gwlad yn erbyn Yr Alban yn 1963, mewn amodau gwlyb a mwdlyd, fe benderfynodd Rowlands i gicio'r bêl dros yr ystlys gymaint â phosib.

O ganlyniad fe gafwyd 111 o leiniau yn ystod y gêm gyda’r maswr David Watkins ond yn cyffwrdd y bêl pump o weithiau.

Fe enillodd Cymru’r gêm 6-0 gyda Rowlands yn cicio gôl adlam (ei unig bwyntiau rhyngwladol).

Yn sgil hyn, fe newidiodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol gyfreithiau’r gêm yn 1970 i gael gwared ar y fantais i dimoedd o gicio’n uniongyrchol dros yr ystlys tu allan i’w llinell 22 eu hunain.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod Clive Rowlands yn "un o'r cymeriadau mwyaf aruthrol yn hanes rygbi Cymru".

Ymhlith y teyrngedau, mae Syr Gareth Edwards wedi bod yn hel atgofion am gael y cyfle i chwarae yn erbyn Clive Rowlands yn gynnar yn ei yrfa i Gaerdydd yn erbyn Abertawe.

Dywedodd Syr Gareth: “Ni wedi ‘wherthin sawl gwaith ac ond ychydig wythnosau yn ôl yn yr ysbyty.  'Wedodd e bo’ fi’n cheeky a wedes i wrtho fe ‘dere ‘mlaen Rowlands, ti ‘di mynd rhy hen’.  Ond ‘wedodd e 'Ti ddim digon hen i siarad ‘da fi’.

Llun:Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.