Llandudno: Dod o hyd i gorff wrth chwilio am fachgen 16 oed
Mae timau achub wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am fachgen 16 oed oedd ar goll yn ardal Llandudno.
Ers dydd Sadwrn, mae'r awdurdodau wedi bod yn chwilio am fachgen 'bregus' o'r enw Athrun, aeth ar goll yn ardal traeth Pen y Morfa yn y dref.
Yn dilyn adroddiadau fod corff wedi cael ei weld yn y môr nos Fawrth, fe wnaeth timau chwilio tanfor yr heddlu, awyren yr heddlu a Gwylwyr y Glannau barhau â'u hymdrechion i geisio adfer y corff ddydd Mercher.
Mae'r heddlu nawr wedi cadarnhau fod corff wedi ei godi o'r môr am 18.20 nos Fercher.
Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond mae rhieni'r bachgen wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, yn ôl yr heddlu.
Mae'r crwner hefyd wedi cael gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd: “Mae fy nghydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu Athrun, a gofynnaf am barchu eu preifatrwydd yn ystod yr amser hynod drist ac anodd hwn.
“Nid dyma’r canlyniad yr oedd unrhyw un yn gobeithio ei gael.
“Hoffwn ddiolch unwaith eto i asiantaethau partner ac aelodau’r cyhoedd am eu cefnogaeth aruthrol a’u cymorth diflino gyda’r chwilio dros y pum diwrnod diwethaf.”