Newyddion S4C

Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn ymateb i dlodi plant yng Nghymru

Myfyrwyr Coleg y Cymoedd a Katie Hall

Bydd yr Urdd yn cyhoeddi eu Neges Heddwch ac Ewyllys Da ddydd Iau a fydd medden nhw yn ymateb i ystadegau sy'n dangos fod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Mewn fideo a fydd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Iau, bydd Urdd Gobaith Cymru yn “pledio am newid” i drechu tlodi yn y wlad.

Bydd y neges yn cael ei chyhoeddi mewn ffilm fer ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd am 7:00, a bydd darllediad byw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Mae’r neges yn cael ei chreu gan bobl ifanc Cymru, ac eleni fydd y 103ydd tro iddi gael ei rhannu.

Yn 2024, cafodd ei rhannu mewn mwy na 50 o ieithoedd ac mewn 47 o wledydd, ac roedd mwy na 10 miliwn o bobl wedi’i gweld ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig.

Eleni, mae’r neges wedi derbyn Nawdd Comisiwn Cenedlaethol UNESCO'r DU, a dyma’r prosiect cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

Roedd Gwilym Davies (1879-1955) - ffigwr allweddol yn sefydlu'r Cenhedloedd Unedig ac UNESCO, sydd ei hun yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed eleni - yn un o sylfaenwyr y Neges Heddwch.

Fe gafodd neges eleni ei hysgrifennu gan rai o aelodau’r Urdd a myfyrwyr o goleg addysg bellach Coleg y Cymoedd, gyda chymorth Katie Hall o’r band Chroma, y dylunydd graffeg Steffan Dafydd a’r elusen fyd-eang Achub y Plant.

Mae’r neges yn gwneud galwad frys am newid ar ôl i ystadegau diweddar Llywodraeth y DU gadarnhau bod bron i un o bob tri phlentyn (31%) yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi.

“Mae’n cymryd pentre’ i fagu plentyn… Byddwch yn bentref i ni,” meddai’r neges wrth gloi.

'Pwerus'

Yn ôl yr Urdd, mewn ymateb i’r neges eleni, maen nhw wedi ymrwymo i barhau i gynnig aelodaeth o £1, a sicrhau mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd i deuluoedd incwm is.

Dywedodd Tia-Louise Griffiths, un o’r bobl ifanc a greodd y Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni, fod “pawb yn yr un cwch”.

“Does neb ar fai,” meddai, “ond gallwn weithio tuag at gael gwell dealltwriaeth o’r camau bach y gallwn eu cymryd i wneud gwahaniaeth.”

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Fel mae neges rymus eleni yn dangos, gall pobl ifanc Cymru leisio’n berffaith anghyfiawnder tlodi, ei effeithiau arnyn nhw a’u cymunedau.

“Mae’r ystadegau diweddar am dlodi plant yng Nghymru yn ein cywilyddio i gyd, a mawr obeithiwn y bydd neges eleni’n ysgogi newid ystyrlon.” meddai.

Dywedodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru, ei bod wrth ei bodd yn gallu anfon y neges “bwerus” hon “o ieuenctid Cymru i’r byd ehangach”.

“Rhaid inni roi diwedd ar dlodi plant,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.