
'Mae lot o'r bois rygbi wedi diodde': Max Boyce yn codi arian i elusen MND er cof am ffrind
'Mae lot o'r bois rygbi wedi diodde': Max Boyce yn codi arian i elusen MND er cof am ffrind
"Sa'i erioed wedi gweld rhywun yn dioddef fel Mike. O ni’n gweld e yn gwaethygu pob mis, pob blwyddyn - r'odd e'n anodd i weld."
Mae'r canwr Max Boyce wedi dweud bod rhaid parhau i godi arian at elusen i ymchwil Clefyd Motor Niwron (MND) ar ôl i ffrind agos iddo farw o ganlyniad i'r cyflwr.
Dywedodd y canwr o Lyn-Nedd sy'n llywydd ar y clwb rygbi lleol ei fod yn “bwysig i ni cadw rhoi sylw at yr elusen oherwydd ychydig arian ma nhw’n ca'l”.
Ddydd Sadwrn fe fydd Clwb Rygbi Glyn-nedd yn cynnal cystadleuaeth er cof am ddyn lleol a fu farw o MND.
Roedd Mike ‘Tubby’ Griffiths yn ffrind agos i Max Boyce. Bu farw Mr Griffiths yn 2021 yn 60 oed.
Mae timau rygbi lleol ar draws y cwm wedi dod at ei gilydd i chwarae mewn cystadleuaeth rygbi 10 bob ochr i gofio amdano.
Mae Max Boyce yn ei gofio fel “bachan ffein ofnadwy – halen y ddaear.”
Ond y dioddef a welodd sydd hefyd yn aros yn y cof.
“Dalodd yn gryf nes y diwedd.”

Mae MND yn gyflwr prin sy'n effeithio ar yr ymennydd a'r nerfau. Mae'n achosi gwendid sy'n gwaethygu dros amser.
Mae'r claf fel arfer yn byw rhwng dwy a phum mlynedd o ddechrau'r symptomau.
Yn ôl ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae oddeutu 5,000 o bobl yn y DU yn byw gyda MND - 200 o rheini yng Nghymru.
Roedd Mr Griffiths yn wyneb cyfarwydd yn y dref, yn ôl Max Boyce.
“Pawb yn caru Mike, ie pawb," meddai.
“Ma’r ffaith bod y tîms lleol i gyd yn awyddus iawn i ware yn dangos siwd fath o foi oedd e.
“Byse neb di meddwl byse fe di dioddef o rywbeth fel Motor Neurone Disease.”

Cafodd Mike Griffiths yrfa lwyddiannus yn y maes rygbi. Chwaraeodd i sawl tîm lleol cyn mynd ymlaen i fod yn rhan o dîm Castell-Nedd ac Aberafan.
Mae Max yn cofio’r chwaraewr yn dychwelyd i’r dref i hyfforddi’r tim ieuenctud.
“Enillodd tîm Mike, y Cwpan Cymru yn y Stadiwm yn Nghaerdydd felly, nôl yn 2006 - y tîm gynatf i ennill e, maeddu Caerdydd yn y ffeinal," meddai.
“Fe wnaeth e gwaith aruthrol dros Glyn-nedd."
Nid dim ond fel chwaraewr rygbi mae Mr Griffiths yn cael ei gofio, yn ôl Max. Dechreuodd ei fusnes ei hun, yn gwerthu mêl lleol.
“Odd en gwenynwr heb ei ail.
“Na’r peth pwysicaf iddo fe ar ôl iddo gwpla ware oedd Tubby’s Bees.”
Erbyn heddiw, ei fab Jonathan Griffiths sy’n rhedeg y busnes.
'Lot i neud to'
Pan gafodd Mr Griffiths ei ddiagnosis, fe wnaeth y clwb ddechrau codi arian i'w anfon i’r UDA i dderbyn triniaeth.
“Codwn ni tua hanner can mil o bunne i ddanfon Mike mas i America i gal triniaeth sbesial," meddai Max Boyce.
“Ond dath Covid a ffaelon ni fynd a fe mas."
Mae’r gefnogaeth i’r achos yn parhau heddiw wrth i’r clwb gynnal y gystadleuaeth am yr ail flwyddyn.
This weekend sees the boys head up to play in the tubby 10’s it’s great to be able to support this event in honour of tubby a well respected and liked man throughout the valley all support for the boys is much appreciated we start the day at 11am 💙🖤@TubbyTrust @AllWalesSport pic.twitter.com/RB5d2PVpry
— Resolven RFC (@ResolvenRFC) July 27, 2023
Erbyn heddiw mae wyth astudiaeth MND yn cael eu cynnal yng Nghymru, gyda mwy na 240 o bobl yn cymryd rhan.
Mae’r astudiaethau’n amrywio o dreialon ar gyfer meddyginiaethau, i ddod o hyd i ffyrdd o wella’r arweiniad a’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i bobl ag MND, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Er hyn, mae angen gwneud llawer mwy yn ôl Max Boyce.
“Yn y blynydde diwethaf felly mae lot mwy o sylw nawr nag oedd e, yn enwedig ar ol y Doddie Weir foundation," meddai.
“Ma lot o bois wedi dioddef a’r peth, bois rygbi.
“Mae lot mwy o sylw nawr nag oedd e, ond ma lot i neud to. Dylse pawb fod yn neud tymed bach fydd yn cyfri yn y diwedd.”