Sir Benfro: Ymchwiliad wedi i swyddog heddlu danio ergyd o wn

Bunkers Hill, Aberdaugleddau

Mae ymchwiliad wedi'i lansio ar ôl i swyddog heddlu danio ergyd o wn mewn tŷ yn Sir Benfro nos Sadwrn.

Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed Powys eu galw i stad Bunkers Hill yn Aberdaugleddau am 17:45 wedi adroddiad o anhrefn mewn eiddo yno.

Roedd y llu wedi derbyn adroddiad bod unigolyn yno gyda chyllell yn ei feddiant.

Cafodd swyddogion, gan gynnwys uned arfog, eu hanfon i’r eiddo.

Wrth gynnal archwiliad yn yr eiddo, cafodd ergyd ei thanio o wn gan swyddog am 18:32.

Nid oedd yr ergyd wedi’i chyfeirio at unrhyw unigolyn, ac nid oedd unrhyw anafiadau yn sgil y digwyddiad, meddai'r llu.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyfeirio’r digwyddiad at y Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, a fydd yn penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad annibynnol i’r digwyddiad neu a fydd yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r llu.

Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal ddydd Sul.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Gary Phillips: “Rydym wedi cychwyn ymchwiliad prydlon i'r amgylchiadau a arweiniodd at danio'r arf, ac wedi cyfeirio'r digwyddiad at y Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

“Byddwn yn gweithio gyda nhw wrth i ni barhau i sefydlu'r amgylchiadau a arweiniodd at y saethu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.