Gwynedd: Dyn ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd

Y Ffôr

Mae dyn ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn nos Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A499 ger Y Ffôr, Pwllheli, am 22:14 yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad yn ymwneud â sawl cerbyd.

Cafodd dau berson eu cludo i Ysbyty Stoke mewn hofrenyddion, tra bod un claf wedi'i gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod pedwar ambiwlans wedi'u hanfon i’r lleoliad, yn ogystal ag uned ymateb, rheolwr gweithrediadau a rheolwr ymateb.

Roedd hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru a Chwilio ac Achub hefyd wedi ymateb i’r digwyddiad.

Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, fod un person wedi marw yn y digwyddiad.

“Yn hynod drist o glywed am farwolaeth drasig dyn ifanc mewn damwain ger Y Ffôr, Pwllheli neithiwr. 

“Mae fy nghalon yn mynd allan at ei deulu a’i ffrindiau. Hefyd rwy’n anfon fy meddyliau at y rhai a anafwyd. 

“Hoffwn hefyd estyn fy niolch i’r gwasanaethau brys a ymatebodd mewn amgylchiadau mor heriol.”

Roedd y ffordd dal ar gau fore Sul wrth i Heddlu Gogledd Cymru archwilio safle'r gwrthdrawiad.

Dywedodd llefarydd o Wasanaeth Ambiwlans Cymru: “Cafodd ein galw ddoe (28 Mawrth) tua 10:14yh, i adroddiadau am ddamwain traffig aml-gerbyd ar yr A499, ger Pwllheli.

“Anfonwyd pedwar ambiwlans brys, un Uned Ymateb Uwch Achosi Cymru, un rheolwr gweithrediadau ac un rheolwr ymateb i'r man.

“Darparwyd cymorth gofal critigol uwch gan y Gwasanaeth Symud a Throsglwyddo Meddygol Brys mewn helicopter elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

“Darparwyd cymorth ychwanegol gan helicopter chwilio ac achub ac arbenigwyr gofal brys cyn y sefydliad

“Cafodd dau glaf eu cludo mewn awyr a chafodd un claf ei gludo ar y ffordd i'r ysbyty am driniaeth bellach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.