Gôl y tymor? Chwaraewr Cymru yn serennu yn narbi Glannau Mersi
Fe wnaeth un o chwaraewyr Cymru, Ceri Holland serennu yng ngêm darbi Glannau Mersi ddydd Sadwrn gan sgorio un o goliau'r tymor.
Fe redodd yr asgellwr dros hanner y cae cyn crymanu'r bêl i gornel uchaf y rhwyd wrth i Lerpwl ennill 3-2 yn erbyn Everton ym Mharc Goodison.
Hefyd fe wnaeth Holland sgorio cic o'r smotyn yn yr hanner cyntaf ac ennill seren y gêm.
Roedd Lerpwl yn ennill 3-0 erbyn hanner amser, cyn i Everton sgorio dwy o goliau yn yr ail hanner wedi i Grace Fisk dderbyn carden goch.
Inline Tweet: https://twitter.com/LiverpoolFCW/status/2037875671129604351
Nid dyma'r tro cyntaf i Holland ennill gwobr seren y gêm yn Uwch Gynghrair Menywod Lloegr y tymor hwn.
Mae ei pherfformiadau wedi bod yn allweddol wrth i Lerpwl geisio osgoi disgyn i'r ail haen.
Dywedodd rheolwr Lerpwl, Gareth Taylor bod Holland yn "llawn haeddu" ennill y wobr wedi ei pherfformiad.
"I gymryd y gic o'r smotyn adeg hynny yn y gêm, mae'n enfawr ac roedd hi mor bwyllog," meddai.
"Dwi'n meddwl os nad ydyn ni'n derbyn carden goch, rydym yn agor Everton i fyny dipyn yn fwy ac mae Ceri o bosib yn sgorio hat-tric.
"Mae hi'n gwneud llawer o waith i ni ac mae'n rhoi cymaint o ymdrech i mewn, mae hi'n chwaraewyr gwych i weithio gyda."
Bydd Holland yn gobeithio parhau gyda'i pherfformiadau wrth i Gymru baratoi i wynebu Albania yn Wrecsam ac yna yn Elbasan o fewn ychydig ddyddiau o'i gilydd ym mis Ebrill.
Mae Cymru wedi cychwyn eu hymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd gyda gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Tsiecia, cyn ennill 6-1 yn erbyn Montenegro ym Mharc y Scarlets.