Dirwy o £2.2 miliwn i gwmni Huws Gray ar ôl i weithiwr gael ei wasgu i farwolaeth

Huws Gray

Mae cwmni Huws Gray wedi derbyn dirwy o £2.2 miliwn wedi i weithiwr farw ar ôl gael ei wasgu gan baled o bren oedd yn pwyso tair tunnell.

Fe wnaeth Paul Coulson farw ar ôl i gydweithiwr gychwyn gweithredu cludwr (conveyor) heb sylwi fod Mr Coulson wedi dringo mewn iddo, meddai'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch.

Digwyddodd hyn ar 22 Mai 2024 mewn safle yn Bury St Edmunds yn Suffolk, sydd yn cael ei weithredu gan gwmni Huws Gray.

Roedd Mr Coulson, oedd yn 56 oed yn tynnu plastig oddi ar y paledi pren cyn iddynt gael eu prosesu.

Dringodd mewn i fframwaith y cludwr er mwyn cael mynediad at fwy o'r plastig, ond roedd cydweithiwr iddo oedd methu ei weld, wedi cychwyn gweithredu'r cludwr.

Fe wnaeth y paledi pren symud tuag at Mr Coulson a'i wasgu, dywedodd yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch.

Bu farw yn y fan a'r lle.

Ymchwiliad

Roedd ymchwiliad gan yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch wedi canfod bod y cwmni eisoes wedi gosod arwyddion yn gofyn i weithwyr beidio ceisio cael mynediad i'r "gofod peryglus" o fewn y cludwr wedi i weithwyr wneud hynny yn y gorffennol.

Roedd lluniau cylch cyfyng yn dangos fod staff wedi dringo mewn i'r cludwr ar 19 achlysur rhwng Ebrill 13 a Mai 23 2024.

Er bod y cwmni wedi gosod sticeri ar y cludwr mewn ymgais i osgoi hyn, ni chafodd camau pellach eu cymryd i atal mynediad tan ar ôl marwolaeth Paul Coulson.

Roedd y mesurau a gafodd eu cyflwyno yn ceisio lleihau'r risg ac yn cynnwys gwarchod y cludwr i atal mynediad iddo a newid y system fel bod y plastig wedi ei dynnu oddi ar y paledi cyn cael eu gosod ar y cludwr.

Hefyd mae mwy o gamerâu cylch cyfyng wedi eu gosod er mwyn cynnig mwy o welediad i'r rhai sydd yn gweithredu'r peiriant, meddai'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch.

Fe wnaeth Huws Gray, a gafodd ei sefydlu yng Ngaerwen ger Llangefni, Ynys Môn, bledio'n euog i dorri rhannau o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974.

Derbyniodd y cwmni dirwy o £2.2 miliwn a'u gorchymyn i dalu costau llawn o £9,929 yn Llys yr Ynadon Chelmsford ddydd Iau.

'Methiant syfrdanol'

Dywedodd arolygydd yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch bod "methiant syfrdanol" y cwmni wedi arwain at farwolaeth Mr Coulson.

"Roedd hwn yn fethiant syfrdanol a arweiniodd at farwolaeth dyn, gan adael teulu oedd yn ei garu llawer hebddo," meddai Joanne Williams.

"Mae angen i bob cwmni, ta waeth eu maint, ddilyn rheolau gwarchod sy'n ymwneud â diogelu peiriannau peryglus o fewn cyfarpar gwaith.

"Pe bai Huws Gray wedi cymryd y camau priodol pan oeddynt yn ymwybodol o'r broblem, byddai Paul Coulson yn fyw heddiw.

"Bydd ein meddyliau pob tro gyda'i deulu a'i ffrindiau wedi'r golled maen nhw wedi dioddef."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.