Tiger Woods wedi ei ryddhau ar ôl cael ei gyhuddo o yrru dan ddylanwad

Tiger Woods

Mae Tiger Woods wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wedi iddo gael ei gyhuddo o yrru dan ddylanwad ar ôl bod mewn gwrthdrawiad yn Florida.

Dywedodd Gwasanaeth Heddlu Sir Martin bod Woods hefyd wedi ei gyhuddo o ddifrodi eiddo a gwrthod darparu prawf wrin.

Roedd y golffiwr byd enwog, sydd yn 50 oed wedi ei arestio ar ôl i'w gar wrthdaro â lori cyn rholio hyd y ffordd brynhawn ddydd Gwener.

Dywedodd y Sheriff John Budensiek fod swyddogion ddim yn amau ei fod dan ddylanwad alcohol, ond yn hytrach dan ddylanwad "sylwedd anhysbys."

Fe wnaeth Woods gropian allan o sedd y teithiwr, ac fe wnaeth basio prawf alcohol - ond fe wrthododd gwneud prawf wrin.

Ni chafodd neb eu hanafu, ac fe gafodd Woods ei ryddhau ar fechnïaeth wedi iddo dreulio wyth awr yn y ddalfa.

Dywedodd y Sherrif Budensiek fod Woods yn honedig wedi ceisio gyrru heibio lori "ar gyflymder uchel."

Ychwanegodd fod swyddogion wedi cynnal "profion manwl" wedi'r gwrthdrawiad a bod Woods yn "cydweithio" gyda nhw.

Dyw Tiger Woods heb chwarae llawer o golff ers gwrthdrawiad difrifol yn 2021 a wnaeth ei adael gyda sawl anaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.