Saith person ag anafiadau difrifol ôl i gar daro i mewn i gerddwyr
Mae saith person wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl i gar yrru i mewn i gerddwyr.
Cafodd dyn yn ei 30au ei arestio wedi i gar yrru mewn i grŵp o bobl yn Derby nos Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu bod y car maen nhw'n credu oedd yn cael ei yrru gan y dyn wedi cael ei stopio wedi'r digwyddiad yn Friar Gate yn y ddinas am tua 21:30.
Cafodd y gyrrwr - dyn yn ei 30au sydd yn wreiddiol o India - ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a gyrru'n beryglus.
Mae'n parhau yn y ddalfa.
Ychwanegodd y llu eu bod eisiau siarad gydag unrhyw un a welodd car Suzuki Swift du yn gyrru yn Derby adeg y digwyddiad.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Sir Derby: "Er rydym yn cydnabod bod hwn yn frawychus, hoffwn dawelu meddyliau pobl. Nid ydym yn credu bod dal risg i'r cyhoeddi wedi'r digwyddiad.
"Cafodd saith o bobl eu trin yn lleoliad y digwyddiad gan griwiau ambiwlans a'u cludo i'r ysbyty yn Derby a Nottingham."
Mae rhan o Friar Gate wedi cau ac mae'r heddlu yn annog pobl i osgoi'r ardal.
