Cyhoeddi Prif Artist Eisteddfod T 2021
Rhiannon Gwyn, o Sling ger Bethesda, yw Prif Artist Eisteddfod T.
Yr artist, Lisa Eurgain Taylor, fu'n beirniadu'r gystadleuaeth, gyda 25 o artistiaid ifanc yn cystadlu eleni.
Graddiodd Rhiannon gyda gradd dosbarth cyntaf Artist Dylunydd: Gwneuthurwr o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2019, ac ar ôl preswyliad blwyddyn ar raglen 'Inc Space' i Raddedigion Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae hi bellach wedi dychwelyd adref i ogledd Cymru.
Yn ôl Rhiannon, mae cael ei magu yn ardal chwarelyddol y Sling ger Bethesda wedi ac yn parhau i ddylanwadu’n gryf ar ei gwaith creadigol.
“Mae fy ngwaith yn archwilio ymdeimlad o le a'r syniad o fod â chysylltiad dwfn â'r dirwedd,” dywedodd Rhiannon.
“Rwy’n gweithio’n bennaf gyda llechi i greu naratif sy'n adlewyrchu fy ymdeimlad o hunaniaeth trwy archwilio’r cysylltiadau rhwng tirwedd fy nghartref yng Ngogledd Cymru a mi fy hun.
"Mae hyn yn cynnwys archwilio potensial llawn llechi drwy eu cynnwys gyda phrosesau cerameg i greu gwrthrychau sy’n portreadu ffurfiau o’r tir.”
Dywedodd Lisa Eurgain Taylor ei fod “wedi dychryn” gyda safon uchel y gwaith.
“Cefais bleser llwyr yn mynd trwy’r ceisiadau,” dywedodd y beirniad.
“Dw i wrth fy modd efo gwaith Rhiannon a’r syniadau tu ôl i’w gwaith cerameg.
"Dw i wir yn gallu teimlo ei chariad hi tuag at Ogledd Cymru ac mae’n cyfleu Eryri yn berffaith drwy ei gwaith.”
Fel Prif Artist Eisteddfod T, mae Rhiannon yn derbyn tlws sydd wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin Evans.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Alys Gwynedd sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd ac yn drydydd oedd Kelsey Brooks sy’n astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Dilynwch holl gystadlaethau Eisteddfod T ar S4C drwy gydol yr wythnos, neu gwyliwch ar alw ar S4C Clic neu BBC iPlayer.