Bachgen o Wcráin yn sefyll arholiadau TGAU Cymraeg wedi llai na blwyddyn yng Nghymru

27/07/2023
Bohdan Syvak

Mae bachgen o Wcráin wedi sefyll arholiadau TGAU Cymraeg – 10 mis yn unig ar ôl cyrraedd Cymru.

Bu’n rhaid i deulu Bohdan Syvak, disgybl yn Ysgol Gyfun Porthcawl, ffoi o Wcráin ym mis Mawrth y llynedd.

Arhosodd y teulu yn yr Almaen am chwe wythnos, cyn symud i Gymru a chael croeso cynnes gan deulu ym Mhorthcawl.

Dywedodd Bohdan bod ei athrawes Alison Lloyd, Pennaeth yr Adran Gymraeg yn yr ysgol, wedi bod o help mawr iddo ddechrau dysgu’r iaith.

Roedd dysgu'r iaith "yn anodd" meddai ond roedd wedi dangos bod modd "gwella" drwy "dreulio amser" ar y pwnc.

Ychwanegodd ei fod yn bwriadu parhau i ddysgu’r iaith nes ei fod yn rhugl.

”Rwy’n ddiolchgar iawn i Mrs Lloyd am roi o’i hamser cinio i’m helpu i ddysgu Cymraeg er mwyn i mi gael sefyll fy arholiad TGAU,” meddai.

“Roeddwn i eisiau dysgu Cymraeg gan ei fod yn sgil da ar gyfer y dyfodol, ond hefyd, doeddwn i ddim eisiau byw yng Nghymru heb allu siarad yr iaith. 

“Rwy’n mynd i’r coleg ym mis Medi, ond byddwn wrth fy modd o gael parhau i ddysgu Cymraeg er mwyn i mi allu ei siarad yn rhugl.”

‘Gwên fawr’

Fe wnaeth Bohdan sefyll ei arholiad llafar TGAU Cymraeg yn gyntaf, ac yna tri arholiad arall i asesu ei sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg. 

Dywedodd ei athrawes Alison Lloyd: “Rwy’n hynod falch o Bohdan a’r hyn mae wedi’i gyflawni.  

“Yn dilyn cyfnod o ansicrwydd, gorfod gadael ei gartref, ei deulu, a’i ffrindiau yn Wcráin, mae ef wedi ymgartrefu’n arbennig o dda yn ei fywyd newydd ym Mhorthcawl. 

“Mae ef wedi mynychu’r ysgol yn ddyddiol gyda gwên fawr ar ei wyneb, yn fy nghyfarch gyda ‘Shwmae!’, ac wedi gwir ymrwymo i ddysgu’r Gymraeg, gan roi gorau i’w amser cinio a’i frwdfrydedd mawr tuag at bêl-droed hyd yn oed, er mwyn ymarfer ei Gymraeg. 

“Hoffwn ddymuno’n dda iddo gyda’i arholiadau ac ar gyfer y dyfodol, a gobeithiaf yn fawr y bydd yn parhau i siarad y Gymraeg. 

“Byddwn wrth fy modd yn gweld Bohdan ar S4C yn y dyfodol, yn chwarae i dîm pêl-droed cenedlaethol Wcráin ac yn cael ei gyfweld yn y Gymraeg ar ddiwedd y gêm!”

‘Gwers’

Mae 198 o Wcrainiaid wedi derbyn lloches o fewn Cyngor Pen y Bont ar Ogwr drwy Gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru.  

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg ei fod yn falch bod Bohdan wedi cael croeso cynnes.

“Mae’n ysbrydoledig iawn i glywed hanes Bohdan!” meddai. “Dymunwn y gorau iddo gyda’i ganlyniadau! 

“Fodd bynnag, ei ymrwymiad a’i ddyfalbarhad yw'r gwir lwyddiant – yn wers i ni gyd.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.