Newyddion S4C

Y gantores Sinéad O’Connor wedi marw'n 56 oed

26/07/2023
Sinéad O’Connor

Mae'r gantores Wyddelig Sinéad O’Connor wedi marw'n 56 oed.

Fe ddaeth i amlygrwydd byd-eang yn 1990 gyda'i chân 'Nothing Compares 2 U', oedd wedi ei chyfansoddi gan yr artist Prince.

Fe newidiodd ei henw i Shuhada' Sadaqat yn 2018 ar ôl troi at Islam.

Mewn datganiad, dywedodd teulu’r gantores nos Fercher: “Gyda thristwch mawr rydyn ni’n cyhoeddi marwolaeth ein hannwyl Sinéad.

"Mae ei theulu a’i ffrindiau wedi gofyn am breifatrwydd ar yr amser anodd iawn yma.”

Rhyddhaodd y gantores o Ddulyn 10 albwm stiwdio, a chafodd ei chân 'Nothing Compares 2 U' ei henwi yn brif sengl y byd yn 1990 gan wobrau'r Billboard Music Awards.

Cyflwynwyd y wobr gyntaf am yr Albwm Wyddelig Glasurol i Ms O’Connor yng Ngwobrau Cerddoriaeth RTÉ yn gynharach eleni.

Roedd hi'n ymgyrchydd brwd dros nifer o achosion oedd yn agos i'w chalon, ac roedd hefyd yn feirniad hallt dros y blynyddoedd o'r Eglwys Gatholig am ei hymdriniaeth o blant oedd yn ei gofal.

Daeth i sylw byd-eang am rwygo llun o'r Pab John Paul yr Ail yn 1992 ar raglen deledu Saturday Night Live.

Mae arweinydd Iwerddon, y Taoiseach Leo Varadkar, wedi rhoi teyrnged i Ms O’Connor gan ddweud: “Roedd ei cherddoriaeth yn cael ei garu ledled y byd ac roedd ei thalent yn ddigymar a thu hwnt i’w gymharu.”

'degawdau cyn ei hamser'

Dywedodd y digrifwr Gwyddelig Dara O'Briain am ei marwolaeth: "Dyna newyddion trist iawn. Gobeithio iddi sylweddoli cymaint o gariad oedd tuag ati."

Disgrifiodd yr awdur Gwyddelig Marian Keyes farwolaeth O'Connor fel un "torcalonnus".

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y newyddiadurwr Caitlin Moran: "Roedd hi ddegawdau cyn ei hamser, ac yn ddi-ofn. Gorffwysa mewn grym, frenhines."

Ychwanegodd y cyfarwyddwr ffilm Mark Cousins: "Sinead Ochainir oedd ein hochr wyllt Wyddelig. Rhan mor fawr o'n bywydau dychmygol."

Roedd Ms O’Connor wedi dioddef cyfnodau o anhwylderau iechyd corfforol a meddyliol yn ystod ei bywyd.

Roedd hi'n fam i dri o blant.

Bu farw ei mab Shane yn 17 oed ym mis Ionawr y llynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.