Newyddion S4C

Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Dolgellau

31/05/2021
Rhydymain

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Dolgellau ddydd Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A494 rhwng Llanuwchllyn a Rhydymain am tua 15.15.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan â'r lle ar ôl gwrthdaro gyda char VW Golf, meddai'r heddlu.

Cafodd gyrrwr y car fân anafiadau, gyda theithiwr arall yn y car yn cael ei gludo gydag Ambiwlans Awyr i Ysbyty Aintree ar Lannau Mersi.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth.

Dywedodd Sgt Jason Diamond o Uned Plismona'r Ffyrdd: "Rwy’n apelio am unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a oedd yn teithio ar hyd yr A494 yn yr ardal hon tua 15.15 a allai fod â lluniau dashcam i gysylltu â ni.”

Mae'r heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu dros sgwrs gwe neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Z076329.

Mae'r ffordd yn parhau ar gau.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.