Euro 2020: James Lawrence allan o'r garfan oherwydd anaf
Mae James Lawrence wedi gorfod tynnu 'nôl o garfan Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2020 oherwydd anaf.
Tom Lockyer fydd yn cymryd lle'r amddiffynnwr yn y garfan a gafodd ei chyhoeddi nos Sul.
Fe gadarnhaodd Undeb Bêl-droed Cymru na fydd Lawrene yn gallu chwarae am rai wythnosau wedi iddo dderbyn sgan ddydd Sul.
Mae Lockyer wedi ymddangos 13 gwaith mewn crys Cymru ers ei ymddangosiad cyntaf 2017 mewn gêm yn erbyn Panama.
Bydd Cymru yn chwarae mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc nos Fercher (2 Mehefin) ac Albania nos Sadwrn (5 Mehefin).
Fe fyddan nhw wedyn yn herio'r Swistir (12 Mehefin) a Thwrci (16 Mehefin) yn Baku, a’r Eidal (20 Mehefin) yn Rhufain yng ngrwpiau’r twrnament a oedd i fod i gael ei gynnal y llynedd.
Carfan Euro 2020 Cymru:
Aaron Ramsey, Wayne Hennessey, Ben Davies, Ethan Ampadu, Joe Rodon, Chris Mepham, Connor Roberts, Adam Davies, James Lawrence, Joe Allen, Matthew Smith, Joe Morrell, Harry Wilson, Kieffer Moore, Jonathan Williams, Neco Williams, David Brooks, Danny Ward, Dan James, Ben Cabango, Dylan Levitt, Tyler Roberts, Rubin Colwill, Chris Gunter, Gareth Bale a Rhys Norrington-Davies.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans