Galwad am fwy o eglurder wrth hysbysebu swyddi Cymraeg
Galwad am fwy o eglurder wrth hysbysebu swyddi Cymraeg
Dylai swyddi lle mae'r Gymraeg yn ofynnol esbonio'n gliriach pa mor rhugl sydd angen bod er mwyn gallu eu gwneud nhw, yn ôl un siaradwr newydd.
Dywedodd Jack Henry, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd, fod dysgwyr yn amharod i fynd am swyddi lle mae'r Gymraeg yn ofynnol am nad yw'n glir faint o'r iaith sydd ei hangen.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Yn gyffredinol, pan dwi’n chwilio am swyddi yn y Gymraeg, yn esboniad y swydd mae’n dweud ma rhaid i chi gael rhuglder yn yr iaith - ond beth yw rhuglder, dyna’r cwestiwn?
“Ydw i’n rhugl yn yr iaith ar hyn o bryd i geisio am y swydd? Dydw i ddim yn siŵr.
“Mae’n beryg peidio ymgeisio ond yna dwi’n meddwl nad ydi fy sgiliau yn y Gymraeg ddim digon da."
Mae Jack yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach yn byw yn Nottingham ac yn gweithio fel cyfieithydd meddygol. Fel rhan o’i waith, mae’n edrych ar ddogfennau meddygol ac yn eu cyfieithu nhw i'r Ffrangeg, Sbaeneg ac ieithoedd eraill.
Ond roedd chwilio am swyddi oedd yn cynnwys y Gymraeg fel sgil gofynnol yn aml yn peri penbleth iddo, meddai.
“Ydw i’n ddysgwr rhugl? Ydw. Ydw i’n hyderus yn yr iaith Gymraeg? Ydw. Ydw i’n gwneud camgymeriadau fel siaradwyr, siaradwyr sydd a'u Cymraeg fel mamiaith? Ydw.
“Ond ydw i’n rhugl yn yr iaith Gymraeg – dydw i ddim yn siwr. Felly sut ydw i’n pontio’r gap yma?”
Anodd
Dywedodd fod diffyg enghreifftiau o lefel rhuglder yn effeithio ar benderfyniadau dysgwyr i ymgeisio am swyddi cyfrwng Cymraeg.
“Dwi’n meddwl ei fod yn anodd i ddysgwyr geisio i swyddi, swyddi Cymraeg i ddweud y gwir," meddai.
“Ma angen i fwy o fusnesau esbonio faint o Gymraeg sydd angen. Achos ma llawer o ddysgwyr Cymraeg eisiau gweithio trwy’r Gymraeg."
Ychwanegodd: “Mae angen mwy o esboniadau o ba rhan o’r swydd sydd yn y Gymraeg. Ydy’r lefel, neu’r rhan o’r swydd yn hawdd i wneud fel ateb ebyst neu’r ffôn neu ydy hi’n anoddach fel rhoi cyflwyniad yn y Gymraeg.
“Pa ran o’r swydd sydd yn y Gymraeg a pha lefel i chi mo'yn.”
Cymro balch
Penderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl clywed ei gydweithwyr yn defnyddio’u mamiaith nhw yn y gweithle.
“Yn y gwaith ma pobl Ffrengig yn siarad Ffrangeg gyda’i gilydd. Mae’r Sbaenwyr yn siarad Sbaeneg gyda’i gilydd.
“Fel Cymro balch hoffwn i siarad fy iaith fy hun. Dwi’n gallu siarad Ffrangeg, dwi’n hoffi siarad Sbaeneg ond ie hoffwn i siarad iaith fy hun yn y gwaith.”
Er bod Jack ar fin symud i’r lefel uwch ar ei gwrs Cymraeg, dywedodd ei fod yn dal i gwestiynu safon ei iaith.
“Nid Cymraeg yw fy mamiaith," meddai.
"Ma fy ffrindiau yn aml yn dweud, y dylwn i ymgeisio am swyddi cyfrwng Cymraeg er gwaetha popeth. Ond dydw i ddim yn siŵr, yn fy marn i, os ma' fy Nghymraeg yn iawn.”