Newyddion S4C

Chwarter canrif ers ymweliad y Frenhines ag Aberystwyth

Newyddion S4C 31/05/2021

Chwarter canrif ers ymweliad y Frenhines ag Aberystwyth

Mae hi’n chwarter canrif yn union ers i brotest gan fyfyrwyr yn Aberystwyth atal y Frenhines rhag cwblhau ymweliad â'r dref – yr unig dro i hynny ddigwydd ar dir mawr ym Mhrydain.

31 Mai 1996, roedd cannoedd o fyfyrwyr yn anfodlon bod y Frenhines wedi cael gwahoddiad i agor estyniad newydd i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Cafodd saith eu harestio - rhai ohonyn nhw ar ôl neidio dros rwystrau i geisio atal car y Frenhines rhag cyrraedd y llyfrgell.

Un ohonyn nhw oedd Morys Gruffydd.

Image
Morys Gruffydd, un o fyfyrwyr Aberystwyth ar adeg yr ymweliad.
Morys Gruffydd, un o fyfyrwyr Aberystwyth ar adeg yr ymweliad.

“Dwi’n credu odd ‘na falchder o fod yn rhan o rywbeth mor fowr,” dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.

“A bod yn rhan o’r cannoedd oedd yma’n protestio.

“Ond dwi’n credu, edrych mewn cyd-destun ehangach ar y mater, nath e ddangos bod protestio di-drais yn gallu cyflawni pethe, bod pobl yn gwrando ar leisiau protestwyr.”

Ar ôl agor estyniad newydd y Llyfrgell Genedlaethol, fe benderfynwyd na ddylai’r Frenhines fynd yn ei flaen i agor adran newydd ar gampws y brifysgol oherwydd y protestiadau. Dyma’r unig dro i hynny ddigwydd ym Mhrydain.

Image
Arestio
Cafodd saith eu harestio wedi'r brotest yn erbyn ymweliad y Frenhines.

Mae’r cyn-ohebydd, John Meredith, a oedd yna ar y pryd, yn cofio ymateb y dref.

“Oedd y bobl yn teimlo’n gryf mae rhywun oedd yn ymwneud â’r llyfrgell y ddyle fod, a bosib Cymro neu Gymraes, dyle fod yn cyflawni’r achlysur o agor yr estyniad newydd yma,” dywedodd Mr Meredith.

“O’ nhw, wrth gwrs, yn teimlo’n gryf i’r cyfeiriad ‘na.

“Ac roedd y bobl hefyd yn y dre yn teimlo’n gryf bod hi’n beth da i Aberystwyth ac i’r llyfrgell bod y Frenhines yn dod i neud hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.