Cynnig gwersi Cymraeg i ffoaduriaid yn dangos fod 'y Gymraeg yn perthyn i bawb'
Mae cynnig gwersi Cymraeg i ffoaduriaid sydd wedi symud i Gymru yn bwysig er mwyn dangos fod "y Gymraeg yn perthyn i bawb" yn ôl un o athrawon y cwrs.
Mae Nushin Chavoshi-Nejad sydd wedi symud o Iran bellach yn Diwtor Dysgu Cymraeg Morgannwg ym Mhrifysgol De Cymru ac mae'n dysgu'r cwrs Croeso i Bawb i ffoaduriaid o bedwar ban byd - o Wcráin i Syria.
Mae'r ffoaduriaid yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith trwy eu hieithoedd brodorol, diolch i becyn o adnoddau sydd ar gael mewn pum iaith wahanol, gan gynnwys Wcreineg, Cantoneg, Arabeg Syria, Farsi a Pashto.
Mae'r pecynnau yn cynnwys delweddau a fideos am Gymru, hanes yr iaith, celfyddydau, chwedlau a chwaraeon.
'Swreal'
Symudodd Nushin o Iran i Brydain gyda'i theulu yn 10 oed, a doedd hi ddim yn siarad Saesneg na Chymraeg.
"Dwi'n cofio'r teimlad o gyrraedd yr ysgol gynradd y diwrnod cyntaf a'r unig beth o'n i'n deall oedd fy enw i pan roedd yr athrawes yn fy nghyflwyno," meddai wrth Newyddion S4C.
"Roedd o'n deimlad swreal achos ar ôl cwpl o fisoedd, o'n i'n deall popeth ond ddim yn gallu siarad.
"Ar ôl ryw flwyddyn, roedd y ddau ohonom ni (Nushin a'i brawd) yn gallu siarad yr iaith yn hollol rhugl ac ysgrifennu ac ymdopi â mynd i'r ysgol yn llawn amser.
"Dwi wedi bod drwy brofiadau tebyg a gallu uniaethu â phobl sy'n mynd i fyw mewn gwlad a diwylliant gwahanol."
'Rhugl'
Fe wnaeth Nushin gyfarfod ei gŵr, sydd yn Gymro, yn Llundain ac fe symudodd i Gymru 32 mlynedd yn ôl.
"Dechreues i ddysgu Cymraeg achos 'mod i'n meddwl bod e'n bwysig gan mai iaith y wlad oedd hi," meddai.
Ar ôl pum mlynedd o gael gwersi Cymraeg wythnosol, cafodd swydd fel athrawes Ffrangeg a Sbaeneg yn Ysgol Rhydfelen.
"Roedd rhaid i fi ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at Lefel A felly dyna sut des i yn hollol rhugl ar ôl dwy flynedd o weithio mewn ysgol Gymraeg," meddai.
"Dwi wedi bod yn falch o fedru bod yn rhan o'r ddau ddiwylliant ac yn gallu cymdeithasu, a mae wedi fy helpu i gael swyddi, a dwi wedi bod yn dysgu Cymraeg i Oedolion ers 23 o flynyddoedd."
'Croeso i Bawb'
Mae'n credu bod gallu cynnig y cyfle i ffoaduriaid gael dysgu'r Gymraeg yn hollbwysig er mwyn eu croesawu i'r wlad.
"Dyna'r nod - jyst rhoi blas o'r iaith, y diwylliant ac arferion Cymru. Croeso i Bawb ydi enw'r cwrs a dyna'r nod, i groesawu pobl o gefndiroedd gwahanol i Gymru," meddai.
"Jyst teimlad o berthyn dwi'n meddwl yw'r peth pwysicaf. Cymru yw eu gwlad nhw, dwy iaith, dau ddiwylliant a ma' nhw'n gallu bod yn rhan gyflawn o rywun sy'n byw yng Nghymru.
"Mae'n gyfle i bobl ddod at ei gilydd a rhannu eu profiadau nhw o ran llety, addysg, swyddi. Mae croeso iddyn nhw ofyn cwestiynau sydd ddim byd i wneud â'r cwrs hefyd neu isio cyngor, ac maen nhw'n helpu ei gilydd ac yn frwdfrydig iawn."
'Perthyn'
Mae'r ymdeimlad o 'berthyn' hefyd yn greiddiol i'r gwersi yn ôl Nushin.
"Mewn ffordd, mae'n gallu helpu nhw teimlo mwy fel bo nhw'n perthyn i'r wlad hon a'r diwylliant a'r iaith. Mae'n rhoi mwy o gyfle i rai o bobl integreiddio yn yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio falle yn amlach er mwyn bod yn rhan o'r gymuned leol, mae'n rhoi mwy o gyfleoedd," meddai.
"Ond mwy nag unrhyw beth, jyst i deimlo bo' nhw'n cael eu croesawu ac ymgartrefu a'n rhan o'r diwylliant a iaith y wlad - perthyn dwi'n meddwl ydi'r gair pwysicaf."
Dechreuodd y cwrs cyn y pandemig ond daeth i ben cynu ail-gychwyn yn rhithiol ac wyneb yn wyneb, a'r bwriad ydy fod y bobl yn parhau i ddysgu'r iaith ar ôl y cwrs.
"Dim ond cwrs blasu arbennig i bobl ar hyn o bryd, ond y bwriad yw eu bod nhw'n bwydo i mewn i gyrsiau cyffredin, prif ffrwd a dyna beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Ma' nhw gyd isio parhau," meddai.
"Dwi'n meddwl bod e'n help i oedolion sy'n dysgu Cymraeg hefyd i weld bod e'n bosib i unrhyw un i ddysgu Cymraeg. Nid rhywbeth eithriadol neu academaidd yw e, a mae'n gallu newid agwedd pobl hefyd achos 'dyn nhw ddim yn disgwyl rhywun sydd ddim yn edrych fel Cymraes neu o gefndir gwahanol sydd wedi dysgu'r iaith a dod yn rhugl - dwi'n meddwl bod hynny yn dda.
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb - pawb sy'n byw yng Nghymru a thu hwnt."