Rheolwr Abertawe'n 'siomedig' yn dilyn perfformiad Wembley
30/05/2021
Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Steve Cooper, wedi dweud ei fod yn "siomedig" ar ôl i'w dîm golli yn erbyn Brentford yn rownd derfynol gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth yn Wembley ddydd Sadwrn.
Er hyn, dywedodd y rheolwr na ddylai'r Elyrch "colli golwg ar y ffaith fod cyrraedd mor bell yn ymdrech anhygoel".
Cafodd Abertawe eu trechu o 2 - 0 yn erbyn Brentford, gan golli eu cyfle i ddychwelyd i Uwchgynghrair Lloegr.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans