
Perchnogion tafarn yn diolch i'r gymuned a'r gwasanaethau brys wedi tân difrifol
Mae perchnogion tafarn ar Ynys Môn a gafodd ei ddifrodi’n sylweddol mewn tân wedi diolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth ‘ryfeddol’.
Fe gafodd criwiau o Gaernarfon, Bangor, Caergybi, Bangor a Llandudno eu galw i fwyty a thafarn Gaerwen Arms ar ôl adroddiadau o dân, am 15.35 ddydd Mawrth.
Pan roedd y tân yn ei anterth, defnyddiodd y diffoddwyr beiriannau arbenigol tal i geisio ei ddiffodd.
Cafodd trigolion lleol eu hannog i gau ffenestri a drysau eu cartrefi oherwydd y mwg trwchus a oedd yn ymledu o'r safle.
Llwyddodd y criwiau i reoli'r tân ychydig cyn 22.00.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i eiddo masnachol, gan gynnwys adeilad allanol, cegin, bwyty a bar cyhoeddus.
Yn ôl y gwasanaeth tân, fe gynheuodd yn ddamweiniol, a hynny mewn adeilad allanol lle roedd sychwr dillad.
'Catastroffig'

Mewn neges ar Facebook, dywedodd perchnogion y Gaerwen Arms: “Lle mae cychwyn. Brynhawn ddoe, fe rwygodd y tân mwyaf dinistriol drwy’r Gaerwen Arms – ar gyflymder nad oedd modd ei reoli, gan achosi difrod catastroffig i'n cegin a’n bwyty.
“Fe wnaethon ni sefyll naill ochr a gwylio wrth i dîm anhygoel Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru frwydro i achub ein bywoliaeth a ni allwn ddiolch digon am yr hyn wnaethon nhw a'r hyn mae’n nhw’n ei wneud bob dydd – peryglu eu bywydau ar gyfer eraill.
“Rydym yn hynod o falch fod y Gaerwen Arms ar gau ddoe – doedd dim staff y tu mewn a ni chafodd unrhyw un eu brifo. Mae'n well peidio meddwl sut fydda' pethau wedi gallu bod yn wahanol.
“Mae’r gefnogaeth mae Andy, Oli a phawb yn GA eisoes wedi ei derbyn wedi bod yn rhyfeddol – allwn ni fyth ddiolch i chi ddigon. Mae’n anhygoel gweld sut mae cymunedau yn dod at ei gilydd mewn cyfnodau fel hyn.
“Mi fyddwn ni’n nôl ac fe welwn ni chi i gyd yn fuan. Cariad, Tîm GA x”
Lluniau: Rhodri Williams