£500 miliwn o arian Ewropeaidd yn dal heb ei wario gan Lywodraeth Cymru
Mae dros £500 miliwn o arian Ewropeaidd yn yn dal ar gael i’w wario gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn, yn ôl adroddiad newydd.
Dywed adroddiad Archwilio Cymru fod holl gyllid dwy gronfa Ewropeaidd wedi ei ymrwymo i brosiectau, ond mae £504m yn parhau heb ei wario hyd yma.
Ychwanegodd yr adroddiad fod risgiau sylweddol yn cael eu rheoli gan WEFO, sef Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cymaint o’r cyllid â phosibl, ond nid yw rhywfaint ohono o dan eu rheolaeth bellach.
Mae Cymru wedi bod yn derbyn cronfeydd Ewropeaidd yn yr hirdymor, a’r rhaglenni mwyaf yw’r Rhaglen Cronfeydd Strwythurol, o dan ofal WEFO, a’r Rhaglen Datblygu Gwledig, o dan gyfarwyddiaeth materion gwledig Llywodraeth Cymru.
Daeth archwilwyr i'r casgliad bod WEFO a Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ymrwymo holl gyllid yr UE i brosiectau, a mwy.
"Fodd bynnag, mae swm sylweddol o arian ar gael o hyd i’w wario erbyn diwedd 2023. Ar ddiwedd mis Mawrth 2023 roedd y ffigwr hwn yn £504 miliwn, gan gynnwys £446 miliwn ar gyfer y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a £58 miliwn ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig.
"Mae WEFO a Llywodraeth Cymru wedi wynebu rhai heriau sylweddol wrth fwrw ymlaen â’r rhaglenni cyllid, gan gynnwys effeithiau pandemig Covid-19 a chwyddiant uchel yn ddiweddar. Mae problemau yn y gadwyn gyflenwi a phrinder gweithwyr wedi effeithio ar y gallu i gyflawni prosiectau hefyd. Er gwaethaf y problemau hyn, mae holl gyllid yr UE a mwy wedi’i ymrwymo i brosiectau a buddiolwyr.
"Fodd bynnag, mae WEFO a Llywodraeth Cymru yn rheoli rhai risgiau sylweddol i ddefnyddio cymaint â phosibl o gyllid yr UE, ond nid yw rhai o’r risgiau hyn bellach o dan eu rheolaeth. Mae risgiau allweddol yn cynnwys amrywiadau yn y gyfradd gyfnewid a dibyniaeth ar brosiectau a buddiolwyr i gyflawni fel y disgwyliwyd. Mae sicrhau trylwyredd parhaus wrth wirio hawliadau a chadw cofnodion da, wedi’i gefnogi gan staffio priodol, hefyd yn bwysig i reoli’r risg y caiff cyllid ei adhawlio wedi hynny gan yr UE."
Rhwng y ddwy raglen wedi’u cyfuno, mae pob 1% o grant yr UE na chaiff ei wario yn gyfartal i £27 miliwn medd Archwilio Cymru.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton wrth gyhoeddi adroddiad Archwilio Cymru: "Rwy’n sylweddoli ei bod yn her ceisio gwario cymaint â phosibl o gronfeydd yr UE sy’n weddill.
"Mae cwblhau’r rhaglenni yn brin yn golygu colli arian i Gymru ond byddai eu cwblhau yn y cyfeiriad arall yn gallu golygu bil sylweddol i Lywodraeth Cymru.
"Er gwaethaf amgylchiadau anodd, mae’n galonogol gweld bod WEFO a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo holl gyllid yr UE a bod y rhaglenni ar drywydd cadarnhaol o ran gwariant. Mae angen cynnal y cynnydd hwnnw gan hefyd reoli risgiau sylweddol a sicrhau gwerth am arian."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn nodi sylwadau Archwilio Cymru a byddwn yn ystyried yr adroddiad yn llawn wrth i ni barhau i flaenoriaethu'r dasg o sicrhau'r buddion llawn o'r arian sydd ar gael."
Llun Cyngor Môn o Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi