Newyddion S4C

Donald Trump yn cymharu ei hun â’r Mona Lisa mewn sgwrs gyda newyddiadurwr S4C

01/06/2023

Donald Trump yn cymharu ei hun â’r Mona Lisa mewn sgwrs gyda newyddiadurwr S4C

Mae Donald Trump wedi ei gymharu ei hun â’r Mona Lisa wrth esbonio pam fod pobol yn heidio i’w raliau dro ar ôl tro.

Mewn sgwrs ecscliwsif gyda S4C dywedodd ei fod yn ail-adrodd yr un pwyntiau droeon oherwydd mai dyna oedd ei ddilynwyr mwyaf triw eisiau eu clywed ym mhob araith.

Roedd wedi cytuno i drafod â’r newyddiadurwr Maxine Hughes am y cefnogwyr a oedd yn ei ddilyn o ddigwyddiad i ddigwyddiad ar draws yr Unol Daleithiau.

“Mae gen ti bobl sy'n mynd i weld y Mona Lisa - maen nhw'n caru'r Mona Lisa ac fe fyddan nhw'n ei weld gannoedd a channoedd o weithiau ac mae'n gwella bob tro,” meddai yn y sgwrs a fydd yn cael ei darlledu ar 11 Mehefin.

“Yna mae gen ti bobl sy’n dilyn bandiau roc ac maen nhw’n gwrando ar yr un caneuon drosodd a throsodd.”

'Syml'

Wrth gael ei gyfweld gan Maxine Hughes honnodd Donald Trump mai twyll etholiadol oedd yn gyfrifol am ei atal rhag dychwelyd i’r Tŷ Gwyn yn 2020.

Ers colli etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2020, mae Trump wastad wedi honni  mai ef oedd wedi ennill, ac fe wnaeth barhau i honni hynny wrth siarad gyda’r newyddiadurwr Maxine Hughes.

“Mae’n syml iawn – fe gawson ni lawer mwy o bleidleisiau,” meddai Trump wrth gael ei holi yn ei gartref yn Mar-a-Lago, Florida.

Fe aeth ymlaen i ddweud bod yr etholiad wedi ei “rigio”.

“Dwi’n meddwl mai’r peth mawr sy’n rhaid i ni ei wneud yw atal y twyllo, mae’n rhaid i ni atal y twyll, atal y twyllo,” meddai.

Ers hynny, mae sawl ymchwiliad wedi dangos bod canlyniadau’r etholiad yn gywir.

Image
Maxine Hughes
Maxine Hughes

Trump: Byd Eithafol

Er bod Trump wedi gadael y Ty Gwyn ers dros dair blynedd bellach, mae’n parhau i fod yn bwnc llosg yn y wasg.

Ym mis Ebrill fe wnaeth bledio'n ddieuog i 34 o gyhuddiadau, gan gynnwys ffugio cofnodion busnes. Ddechau mis Mai fe wnaeth rheithgor mewn achos sifil ddyfarnu bod Donald Trump wedi camdrin dynes yn rhywiol yn Efrog Newydd yn yr 1990au.

Dyma’r tro cyntaf i Donald Trump siarad yn gyhoeddus gyda’r wasg Gymreig ac mae camerâu S4C ymysg yr ychydig  i gael cyfarfod 1-1 gyda Trump.

Yn ôl Maxine Hughes, sydd yn cyflwyno’r rhaglen ‘Trump: Byd Eithafol’ mae cael cyfweliadau “pobl uchel eu proffil” ar ein sianel genedlaethol Cymru yn hollbwysig.

“Ddylai ni ddim cyfyngu ein dewisiadau o ran y cynnwys rydyn ni'n ei wneud neu yn ei wylio," meddai.

“Ddylai ni ddim gorfod troi at sianeli Saesneg i weld pobl uchel eu proffil. Dyna pam rydyn ni'n mynd ar ôl arweinwyr y byd.”

‘Ein Arlywydd’

Mae Maxine hefyd yn cwrdd â rhai o’r cymeriadau sy’n dilyn y cyn-arlywydd o le i le fel rhan o’r mudiad MAGA (Make America Great Again) - criw sy’n cael eu hadnabod fel y Front Row Joes.

Er yr holl honiadau sydd yn erbyn Donald Trump, mae miloedd o Americanwyr yn parhau i ddangos eu cefnogaeth iddo drwy deithio ar draws gwlad, gwario miloedd o ddoleri a rhoi gorau i’w swyddi er mwyn mynd i’w ralïau.

Meddai Adam, un o’r Front Row Joes: “Rwyf wedi gyrru hyd at 18-19 awr ar gyfer rali...rydym wedi dod trwy law,  trwy eira, drwy wres – dyw hynny ddim yn  ein poeni. Byddwn bob amser yno i'n Arlywydd.”

Dyma fydd y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd o’r enw Byd Eithafol, sydd yn edrych ar y byd trwy lens Gymraeg.

Bydd modd gwylio'r rhaglen a chyfweliad llawn Donald Trump ar S4C ar nos Sul 11 Mehefin am 21:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.