Newyddion S4C

Galwadau am fwy o safleoedd swyddogol ar gyfer cartrefi modur yng Ngwynedd

Newyddion S4C 01/06/2023

Galwadau am fwy o safleoedd swyddogol ar gyfer cartrefi modur yng Ngwynedd

Mae yna alwad am fwy o safleoedd swyddogol ar gyfer cartrefi modur yn ardal Porthmadog yng Ngwynedd.

Mae’n dod ar ôl i Gyngor Gwynedd gyhoeddi prosiect newydd i greu pump arosfan yn benodol i gartrefi modur mewn rhannau eraill o'r sir.

Mae rhai trigolion lleol wedi cwyno fod cartrefi modur yn peri trafferthion, wrth i dwristiaid heidio i Wynedd yn eu cerbydau mawr. Dywedodd un gŵr ym Mhorthmadog eu bod nhw’n dangos "diffyg parch" tuag at yr ardal. Ac yn ôl un arall maen nhw "yn aml yn parcio mewn mannau na ddylent."

Mae Caernarfon, Llanberis, Pwllheli a Chricieth wedi’u nodi fel lleoliadau ar gyfer yr arosfannau arbennig, gyda phumed i ddod wrth ymyl tref yn ardal Meirionydd.

Bydd hawl gan gartrefi modur aros yn y safleoedd yma am hyd at 48 awr, gan elwa o gyfleusterau fel dŵr glân a biniau ailgylchu.

Rhwystredigaeth

Ond mae yna rwystredigaeth ymysg rhai pobl leol yn ardal Porthmadog na fydd arosfannau yn cael eu hadeiladu yno.

Mae Tomos Jones, perchennog siop goffi yn y dref, yn siomedig.

“Os oes ’na le penodol i’r cerbydau yma fynd, ’sa hynny’n dda," meddai.

“Dwi’n deall y trafferthion maen nhw’n gallu achosi yn lleol, ond ’da ni methu cael gwared arnyn nhw achos ’da ni angen eu pres nhw. Does ’na’m busnes ym Mhorthmadog heb dwristiaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi:

“Mae’r lleoliadau ar gyfer yr arosfannau’ o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol yma yng Ngwynedd.

“Y bwriad ydi annog defnydd o gysylltiadau trafnidiaeth ac isadeiledd lleol yn ogystal â sicrhau nad yw busnesau lleol yn colli allan wrth i bobl ddod i fwynhau’r profiad twristiaeth unigryw sydd gan Wynedd i’w gynnig.”

Pan ofynnwyd iddi pam na fydd Porthmadog yn un o’r ardaloedd a fyddai’n buddio o’r cynllun, fe ddywedodd hi “nad fi sy’n dewis y lleoliadau. Mae ’na reolau cynllunio ’da ni’n gorfod mynd trwy, a doedd e ddim yn fy nwylo i mae arna i ofn.”

Image
cartref modur ym Porthmadog
Cartref modur ym Mhorthmadog

Ond pwysleisiodd y cynghorydd bod y cynllun arosfannau yn mynd ‘llaw yn llaw gyda sicrhau bod mwy o swyddogion ar gael i fonitro cerbydau gwersylla ar draws y sir.”

Mae'r galw am safleoedd yn yr ardal yn ddigon uchel i gyfiawnhau atyniad ymwelwyr pentref Eidalaidd Portmeirion i wneud cais i'r cyngor yn gofyn am drwydded i ddarparu mwy o safleoedd ar gyfer cerbydau gwersylla, yn ogystal ag ymestyn hyd y cyfnod mae hawl defnyddio'r safle.

Dywedodd Robin Llywelyn, rheolwr cyfarwyddwr Portmeirion: “Mae’r galw yn gynyddol am lefydd safonol i barcio cerbydau gwersylla efo’r adnoddau megis cawodydd a toiledau.”

“Maen nhw yn cyfrannu’n dda yn yr ystyr bod nhw yma am noson neu ddwy neu dair, yn defnyddio’r adnoddau, hwyrach yn mynd am bryd o fwyd i un o’r bwytai ac yn crwydro’r pentref.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.