Brexit wedi cael ‘effaith andwyol’ ar gwmni diodydd o Sir Gâr

Brexit wedi cael ‘effaith andwyol’ ar gwmni diodydd o Sir Gâr
Llai na chwe mis ers i’r cyfnod pontio ddod i ben rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, mae perchennog cwmni diodydd o Sir Gaerfyrddin wedi dweud bod Brexit wedi cael “effaith andwyol” ar ei fusnes yn Ewrop.
Roedd David Thomas, sy’n bartner yng nghwmni Jin Talog, yn rhoi tystiolaeth i Gomisiwn Masnach a Busnes Prydain, oedd yn edrych yn benodol ar drafferthion busnesau bach ddydd Iau.
Wedi’r sesiwn, bu’n sôn mwy am yr effaith mae Brexit wedi ei gael ar ei fusnes.
Dywedodd Mr Thomas: “Mae wedi cael effaith andwyol arnom ni i ddweud y gwir. Cyn Brexit roedd ein marchnad yn Ewrop wedi tyfu, ond ers mis Ionawr mae popeth wedi newid.
“Mae'r farchnad yn Ewrop wedi diflannu erbyn hyn oherwydd costau ychwanegol mae cwsmeriaid ni yn gorfod talu nawr. 'Da ni ddim yn moen pasio'r costau ychwanegol i'n cwsmeriaid ni achos mae'r sefyllfa economaidd yn eithaf bregus ar ôl y pandemig. Ond mae costau ni wedi tyfu hefyd. Nid yw Jin Talog yn gystadleuol nawr i gwsmeriaid sy'n byw yn Ewrop."
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud fod y cytundeb Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd yn golygu cyfleoedd masnachu newydd i gwmnïau Prydain ar draws y byd, gan ddiogelu swyddi'r un pryd.