Achosion positif o Covid-19 mewn ysgol ym Mhorthmadog
Mae tri disgybl yn Ysgol Borth-y-Gest ym Mhorthmadog wedi profi’n bositif am Covid-19, yn ôl Cyngor Gwynedd.
O ganlyniad i’r achosion positif, mae 49 o gysylltiadau unigol wedi cael cais i hunan-ynysu hyd yma.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd pa straen o’r feirws sydd wedi achosi pum achos newydd yn ardal Porthmadog, gan gynnwys y tri achos yn Ysgol Borth-y-Gest medd y cyngor.
Dywedodd llefarydd: “Mae’r ysgol wedi gweithredu’n brydlon ac yn cydweithio gyda’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu lleol i gynnig cyngor ac arweiniad i’r teuluoedd perthnasol.
“Rydym yn anfon ein dymuniadau gorau at bawb sydd wedi cael eu heffeithio ac yn eu hannog i barhau i ddilyn y cyngor sy’n cael ei ddarparu er mwyn helpu i atal y firws rhag lledaenu”.
Yn ôl Dafydd Wyn Williams, Cadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Aml-Asiantaeth Gwynedd: “Mae pawb y gofynnwyd iddynt hunan-ynysu wedi cael eu cynghori i gadw llygad am unrhyw symptomau o’r haint, gan gynnwys peswch parhaus newydd; tymheredd uchel; colli neu newid i arogl neu flas. Rydym yn ddiolchgar iddynt am eu cydweithrediad sy'n allweddol i atal lledaeniad y feirws".
Ychwanegodd Dr Eilir Hughes, sy’n arwain Clwstwr Meddygon Teulu Dwyfor: “Byddem yn atgoffa trigolion lleol a’r miloedd lawer o ymwelwyr a fydd yn ymweld â Gwynedd dros wyliau hanner tymor fod ganddynt ran hanfodol i’w chwarae wrth atal lledaeniad Covid-19.
“Gallent wneud hyn drwy aros yn yr awyr agored pan yng nghwmni eraill, gwisgo gorchudd wyneb, cadw at reolau pellter cymdeithasol a golchi eu dwylo yn rheolaidd. Dan do, dylent gadw ffenestri a drysau ar agor er mwyn helpu i ddod â'r awyr iach i mewn.
“Mae’r achosion diweddaraf hyn hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd fod pob oedolyn yn cael brechiad Covid-19 cyn gynted ag y caiff ei gynnig iddynt gan gynnwys yr ail ddos sy’n atgyfnerthu’r amddiffyniad rhag y firws".
Llun: Google