Newyddion S4C

Degau yn ymgynnull y tu allan i westy yn Llanelli i wrthwynebu cynlluniau lloches

30/05/2023

Degau yn ymgynnull y tu allan i westy yn Llanelli i wrthwynebu cynlluniau lloches

Mae degau o bobl wedi ymgynnull y tu allan i Westy Parc y Strade yn Llanelli nos Fawrth i wrthwynebu cynlluniau posibl i gartrefu ceiswyr lloches yno. 

Daeth hi i'r amlwg ar 24 Mai fod y Swyddfa Gartref yn ystyried defnyddio gwesty yn Llanelli i ddarparu llety i dros 300 o geiswyr lloches.

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn eu bod yn "poeni'n ddirfawr" am y cynllun ar gyfer Gwesty Parc y Strade.

Mae nhw'n dweud y byddai'n cael effaith ddifrifol ar y gymuned leol, yn ogystal â gwasanaethau fel ysgolion a gwasanaethau iechyd lleol. Yn ogystal, mae nhw'n poeni am ddiogelwch y ceiswyr lloches eu hunain.

Ymhlith y rhai yn y brotest nos Fawrth, mae Derek Reeves sy'n byw yn lleol: " Smo ni ishe’r 'asylum seekers' mas fan hyn. Pobl sy’n byw yn yr ardal hyn yn Ffwrnes, 400 ’yn nhw i gyd, a ni ishe rhoi dros 300 mewn fan hyn, "meddai.

"Mae gormod o bobl yn dod mewn, bydden nhw’n rhedeg dros y bobl sy’n byw ’ma. Un dafarn sy’ lawr ’na, un siop sy’ lawr fan hyn, un ysgol sy’ lawr yr hewl fanna. Ond mae’n rhaid i ni weud hyn - mae Llanelli yn mynd yn waeth bob dydd."

Mewn datganiad dywedodd y Swyddfa Gartref ei bod yn costio "£6 miliwn bob dydd i gadw 51,000 o geiswyr lloches mewn gwestai ym Mhrydain" a bod "ymrwymiad i leihau'r defnydd o westai. " 

Doedd y Swyddfa Gartref ddim yn fodlon gwneud sylw am drefniant masnachu ar gyfer safleoedd unigol i geiswyr lloches. 

Mewn datblygiad arall nos Sul, roedd cannoedd yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus i drafod y cynllun. Yn ôl y trefnwyr roedd dros 380 yn bresennol yng Nghanolfan Selwyn Samuel, ac roedd ymateb cadarnhaol i'r apêl am bobol i ymuno â Phwyllgor Gweithredu. 

Roedd yr Aelod Seneddol Llafur lleol Nia Griffith ac Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin Darren Price yn bresennol yn y cyfarfod.

Yn ôl Nia Griffith, mae'r cynllun yn achos pryder: " Wel wrth gwrs ni gyd yn meddwl bod y gwesty yma yn hollol anaddas am 300 o geiswyr lloches.

"'Da ni wedi cael un neu ddau o deuluoedd o Syria er enghraifft, gyda cynllun trefnus, gwybod pryd maen nhw’n dod a pa fath o swydd maen nhw mo'yn ac yn y blaen. Ond yma, ’dyn ni ddim yn gwybod dim byd, ac mae’r sir a fi yn gofyn beth sy’n digwydd.

"Ac wrth gwrs, mae pawb yn becso, maen nhw’n pryderu’n llwyr am beth sy’n mynd ymlaen."

Ond ar raglen Newyddion S4C, mae Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies wedi cyhuddo Llafur o ragrith am wrthwynebu'r syniad.

"Mae’n rili od bod y Llywodraeth Llafur yn dweud ar un llaw ’dyn ni’n mynd i fod yn croesawu pawb, 'nation of sanctuary ', ac yn y blaen, ac yn y blaen," meddai.

"Wrth gwrs, dydyn nhw ddim yn croesawu pobl pan maen nhw’n byw mewn ardaloedd gydag aelodau senedd Llafur. Ni wedi defnyddio gwestai ers ychydig o flynyddoedd, ond yn amlwg nid hynny ydy’r ateb.

"Ond gwaetha’r modd, mae cymaint o bobl wedi dod yma, trwy ffordd anghyfreithlon, mae’n rhaid i ni ddelio gyda’r sefyllfa.

"Os mae 50,000 o bobl yn parhau i ddod, mae’n rhaid i ni dderbyn bod ffoaduriaid yn mynd rhywle, ac mae’n rhagrith o Llafur i ddweud ar un llaw, “Ni’n hollol yn erbyn ffoaduriaid yn Llanelli neu unrhyw le arall yng Nghymru, ond ni’n hollol yn erbyn unrhyw newid yn y deddf i stopio pobl rhag dod yma.”

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.