Apêl heddlu ar ôl 'difrod sylweddol' i gapel ym Mhwllheli

Mae Heddu Gogledd Cymru wedi apelio am wybodaeth gan ddweud eu bod nhw'n credu fod lladron neu leidr wedi torri i mewn ac achosi 'difrod sylweddol' i gapel ym Mhwllheli.
Dywedodd y llu eu bod yn ymchwilio i'r byrgleriaeth yng Nghapel y Drindod yn y dref rhwng dydd Mercher 17 Mai a dydd Sadwrn 20 Mai.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a oedd yn dyst i unrhyw beth amheus yn ardal y capel rhwng y dyddiadau yma i gysylltu â nhw.
Mae yna bresenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal er mwyn tawelu meddwl trigolion, medden nhw.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 23000429185.
Llun: Google Street View