Newyddion S4C

Arwydd Llanfair

Cwmni betio Paddy Power yn rhoi arwydd newydd ar bentref Llanfairpwll

NS4C 26/05/2023

Mae cwmni betio Paddy Power wedi rhoi arwydd newydd ar bentref Llanfairpwll, gan godi gwrychyn nifer yn lleol. 

Yn wreiddiol, 'y pentref bach â'r enw hir' sydd ar waelod arwydd pentref Llanfair­pwllgwyngyll­gogery­chwyrn­drobwll­llan­tysilio­gogo­goch.

Ond mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth cwmni betio Paddy Power rannu llun o arwydd newydd ar bentref Llanfairpwll.

Mae'r arwydd newydd yn dweud fod y pentref wedi cael ei bartneru gyda "Chelsea FC, yr unig le sydd gan mwy o Ls'  

Mae tîm pêl-droed Chelsea wedi profi cyfnod o golledion yn ddiweddar. 

Ond yn dechnegol, dim ond un 'L' sydd yn Llanfairpwll gan bod 'Ll' yn cael ei hystyried fel un llythyren yn y Gymraeg. 

Dywedodd un o drigolion yr ardal, Jim Clarke: "Ond fe ddylai'r pwy bynnag a gafodd y syniad o'r geiriad Seaseneg oddi tan yr enw ar yr arwydd newydd gael eu ffeithiau yn gywir.

"Onid sillafiad o'r wyddor Gymraeg y sydd i enw'r Pentref drwyddi draw - boed yn ddynodiad byr neu yn llawn. Os felly, nid oes llawer o "l's" yn yr enw - dim ond yr un y sydd yn y gair 'TysiLio' - pedwawr 'LL' y sydd yno fel arall: LLanfairpwgyngyLLgo ger y chwyrn drobwLLLLantysiliogo go goch! Dyna sy'n gywir onid e?

"Pwy a wyr na fydd logo'r cwmnïau hyn yn cael eu hychwanegu ar waelod rhai o'n hysbysfyrddau eraill ar rhai o adeildau hynod y pentref gyda hyn? Rhyfedd o fyd - ond nid yw'n syndod."

Image
Arwydd pentref
Mae'r arwydd gwreiddiol wedi cael ychydig o ddifrod wrth dynnu'r un newydd. 

Cadeirydd Cyngor Bro Llanfairpwll ydy Stephen Edwards ac fe dynnodd yr arwydd i lawr, ac mae bellach yn cael ei gadw yn ei garej.

Dywedodd Mr Edwards wrth Newyddion S4C: "Nes i weld o ar Facebook gan un o drigolion y pentref ag o'n i'n meddwl bod gen rywun sgiliau Photoshop gwych.

"Ges i alwad gan y Cynghorydd Sir Dyfed Jones a nath o ddeud bod o'n wir, ac ar y ffordd adra es i yna i edrych a thynnu'r arwydd i ffwrdd.

"Dwi'n cymryd bo' nhw ddim isio fo 'nol, felly fedrwn ni drio neud rwbath efo fo yn y pentra neu ei ailgylchu."

Er bod Mr Edwards yn gweld yr ochr ddoniol, ni wnaeth cwmni Paddy Power gysylltu efo'r Cyngor Bro, sydd yn berchen ar yr arwydd, cyn ei osod ar yr un gwreiddiol. 

"Mae o'n ddoniol ond ma'i 'di mynd yn oes fel 'na, y neges iddyn nhw ydy bod angen iddyn nhw gysylltu efo ni fel Cyngor Bro os ydyn nhw isio gwneud rhywbeth fel yma," meddai. 

"Dwi'n gweld yr ochr ddoniol a marchnata ohona fo ond eto, ti'n meddwl am sut y basa nhw wedi ymateb os fysa ni fel cyngor bro wedi gwneud rhywbeth i un o'u harwyddion nhw."

Wrth dynnu'r arwydd felcro i ffwrdd, fe wnaeth Stephen sylweddoli bod yna ychydig o ddifrod i'r un gwreiddiol, gyda rhai o'r llythrennau wedi cael eu difrodi.

'Gofyn caniatâd'

Dywedodd Cynghorydd Sir Ynys Môn dros ward Aethwy Dyfed Jones: "Mi fasa hi’n braf os fysa nhw’n gofyn caniatâd, does genna ni ddim problem efo chydig o hwyl ond cwrteisi ydi gofyn am ganiatad i wneud.

"Dwi wedi trio cysylltu efo’r cwmni ar y cyfryngau cymdeithasol ond heb gael unrhyw ateb eto, ma’ nhw’n gwmni mawr a fysa fo wedi bod yn braf ella petae nhw’n gwneud cyfraniad bychan i’r gymuned.

"Er nad oes Chelsea yma yn Llanfair, mae yna dros 200 o blant a phobl ifanc yn chwarae pob wythnos, braf bysa cael cefnogaeth Paddy Power iddyn nhw?"

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.