Grantiau newydd er mwyn rhoi hwb i'r Gymraeg mewn cymunedau

Mae cyfres o grantiau wedi cael eu rhoi i brosiectau cymunedol fel rhan o ymgyrch i helpu gwarchod yr iaith Gymraeg.
Mae cyllid prosiect Perthyn wedi’i ddarparu er mwyn hybu’r Gymraeg ar sawl ffurf wahanol o fewn cymunedau ledled y wlad.
Fe lwyddodd 21 o grwpiau cymunedol i ennill cyllid gan Gwmpas, sef asiantaeth ddatblygu sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, er mwyn sefydlu a chefnogi mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a phrosiectau tai – a hynny ar sail ffynnu’r iaith Gymraeg.
Nod un o’r prosiectau llwyddiannus yw troi hen gapel yn Sir Benfro yn ganolfan dreftadaeth leol, ynghyd â chreu caffi a dau fflat newydd.
Gyda chyllid o £12,500, bydd CarTrefUn yn Hermon yn sicrhau hwb Cymraeg i’r gymuned wrth fynd i’r afael â llety anfforddiadwy.
Fe fydd ymgyrch tebyg yn cymryd rhan yn Aberdyfi gyda’r arian yn cael ei ddefnyddio i brynu garej a swyddfa bost Penrhos er mwyn sicrhau gwaith a chartrefi’n lleol.
‘Cymraeg yn perthyn i ni gyd’
Dywedodd Jocelle Lovell, sef Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol Cwmpas: “Mae’n bleser gennym gael gweithio gyda’n partneriaid i gyflawni prosiect Perthyn.
“Mae Perthyn yn gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd.
“Mae gweinyddu cynllun peilot grantiau bach ar gyfer y cymunedau er mwyn helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni.”
Ymysg y prosiectau arall fydd ymgyrch i brynu tafarn gymunedol leol yn Nyffryn Aeron yn ogystal ag ymgyrch i sefydlu cwmni egni adnewyddadwy yn Nhrefin.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, gan gynnwys pob cymuned yng Nghymru.
“Rwy’n falch o weld y syniadau creadigol sydd wedi eu cynnig gan grwpiau cymunedol ledled y wlad. Bydd y grantiau hyn yn helpu i greu cyfleoedd, yn darparu tai fforddiadwy ac yn helpu i warchod y Gymraeg.”