Newyddion S4C

Ymgyrch i newid hen reilffordd i lwybr cerdded ym Môn yn codi stêm

26/05/2023

Ymgyrch i newid hen reilffordd i lwybr cerdded ym Môn yn codi stêm

Mae cannoedd o bobl ar Ynys Môn wedi dangos eu cefnogaeth i ymgyrch i drosi 18 milltir o hen reilffordd i mewn i lwybr aml-bwrpas.

Daeth bron i 500 o bobl i Langefni gyda beiciau a cheffylau yn gynharach fis yma i gymryd rhan mewn gorymdaith i gefnogi cynlluniau grŵp Lôn Las Môn.

Mae’r grŵp yn gobeithio trawsnewid rhan o’r hen reilffordd rhwng Gaerwen ac Amlwch i lwybr ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogaeth.

Roedd y llinell, sydd yn cael ei hadnabod fel Lein Amlwch, yn arfer tywys teithwyr o'r Gaerwen, Llangefni, Llangwyllog, Llannerchymedd a Rhosgoch ymlaen i Amlwch.

Daeth y gwasanaeth i ben yn 1964 yn dilyn toriadau Beeching, ac er bod trenau wedi parhau i gludo nwyddau ar y llinell i ffatri Octel yn Amlwch am rhai degawdau, mae’r lein bellach wedi bod allan o ddefnydd ers 1993.

Er i sawl ymgais gael ei wneud i’w hail-agor, tydi’r trac heb gludo trên ers tair degawd a bellach mae rhannau ohono wedi ei orchuddio gan dyfiant, gyda rhannau eraill yn profi llifogydd rheolaidd.

Dywedodd Gethyn Hughes, un o sylfaenwyr ymgyrch Lôn Las Môn wrth Newyddion S4C: “Mae Lôn Las Môn ‘di bod yn neud hyn ers 2019, ac mae’r gefnogaeth i be da ni’n drio neud yn aruthrol.

“Daeth ‘na lot fawr i’n cefnogi a chodi ymwybyddiaeth yn Llangefni, efo ceffylau, pobl yn cerdded a phobl ar eu beics. Roedd ‘na lot o bobl yna, ac mi oedd pobol Llangefni wrth eu bodd yn gweld nhw’n mynd i lawr y stryd.

“Dwn i ddim os fydda’r bobl mewn ceir yn cytuno efo nhw, ond mae eisiau cael y neges – os ‘da ni ddim ar y Lon Las Môn, ‘da ni am fod ar y lonydd.”

Les 99 mlynedd

Fe wnaeth Cwmni Rheilffordd Canolog Môn Cyf sicrhau les 99 mlynedd i ofalu am y trac gan Network Rail yn 2021, ac mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio ers rhai blynyddoedd i adfer rhannau ohono, yn ogystal â’r ffensys a gwaith draen naill ochr i'r trac.

 

Image
Rheilffordd Amlwch i Gaerwen
Rhan o'r trac rhwng Amlwch a Gaerwen. (Llun: Lôn Las Môn) 

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi trafod y ddau gynllun gyda’r Gweinidog Rheilffyrdd, Huw Merriman, ond mae pryderon ynglŷn â’r gost bosib sydd ynghlwm ag adfer y llinell ar gyfer trenau.

Mae aelodau Lôn Las Môn wedi cyflwyno dogfen gafodd ei pharatoi ar y cyd gydag elusen Sustrans, i gynghorwyr yr ynys. Maent yn amcangyfrif y gallai gwaith i adeiladu’r llwybr gael ei gwblhau o fewn pum mlynedd.

Ychwanegodd Mr Hughes: “Fel hogyn o Amlwch, mae’r rheilffordd yma’n agos iawn i’n nghalon i. Y rheilffordd yma aeth a hogiau’r ynys i’r rhyfel byd cyntaf a’r ail ryfel byd, a naeth lot ohonyn nhw ddim dod yn ôl.

“Nesh i symud i Lundain am 20 mlynedd a dod yn ôl efo tri o blant, a gweld y cyflwr oedd y trac ynddo ac mi naeth o fy ngwylltio i.

“Mae’n reit ddigalon gweld y cyflwr arno fo, mae o fatha craith fawr yn mynd drwy ganol Amlwch. Mae o’n flêr ofnadwy ac mae o fel hynna ar ei hyd, am 18 milltir.

“Da ni isho’r cymuned ei ddefnyddio a ‘da ni di gaddo i’r cyngor fod ni ddim yn mynd i adael nhw dalu am bethau pellach lawr y lein, bydd Lôn Las Môn yn economically sound fel busnes a chwmni cymunedol, ac mi fysa fo’n creu lot o waith i bobl ar yr ynys efo busnesau bach, mewn llefydd fel Llannerchymedd ac Amlwch.

“Mae 12 ysgol yn agos i’r llinell ac mi fysa’n fendigedig i’r plant medru reidio i’r ysgol neu fynd am ddiwrnod allan ar eu beics yn ganol yr haf. Toes na ddim llawer o lefydd di-draffig ar Ynys Môn, fawr ddim i fod yn onest. Fel mae’r Saeson yn dweud, mae hi’n no brainer.”

‘Gwallgof’

Image
Lein Amlwch
Mae Cwmni Rheilffordd Canolog Môn wedi bod yn cynnal gwaith cyson i geisio adfer y trac. (Llun: Cwmni Rheilffordd Canolog Môn)

 

Mae Cwmni Rheilffordd Canolog Môn, sydd yn berchen ar les y trac, yn gobeithio adfer y lein fel rheilffordd gymunedol er mwyn denu twristiaeth a lliniaru ar y traffig sydd yn defnyddio’r ddwy bont.

Mae gwaith ar droed i adfywio rhannau o'r saith milltir o drac rhwng Llangefni a Llannerchymedd, ble mae'r cwmni yn gobeithio ail-agor y rheilffordd i drenau i gychwyn.

Yna, byddent yn cychwyn ar waith i ail-agor gweddill y rheilffordd.

Dywedodd Walter Glyn, cadeirydd Cwmni Rheilffordd Canolog Môn: “Mae ‘na waith cyson yn mynd ymlaen ac mae pethau’n argoeli’n dda.

“Y gwir ydy, mae oes codi traciau wedi bod ac wedi mynd ers dyddiau tywyll Dr Beeching. Mi fysa unrhyw benderfyniad i godi lein fel hyn yn un gwallgof, i ddeud y gwir.

“Mae angen buddsoddiad arnom ni, heb os nac oni bai ond does 'na ddim un ffordd y byddwn ni ddim yn eu hagor hi.

“Dau ddewis sydd – naill ai agor hi neu adael hi fynd ac anghofio amdani, oherwydd does 'na ddim un ffordd dan yr amgylchiadau presennol fod ‘na ddim byd yn mynd i ddigwydd i’r lein.

“’Da ni ddim yn gwrthwynebu unrhyw lwybr, ond dim lle ma’ na rheilffordd. Dyna ydy’n safiad ni erioed.

“’Da ni erioed wedi trafod neb arall mewn unrhyw ffordd, dim ond siarad drosta ni’n hunain a chario mlaen i wneud yn siŵr bod trenau yn weithredol ar y lein unwaith eto. Mae’n argoeli’n ardderchog. Network Rail sydd biau eu hased a nhw sydd efo’r gair diwethaf.”

Dywedodd Virginia Crosbie, yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn: “Mae’r llinell rhwng Amlwch a Gaerwen wedi bod yn segur ers degawdau.

"Mae angen i ni ddod â fo yn ôl mewn i ddefnydd oherwydd mae’n ased sydd â’r gallu i yrru twristiaeth a chefnogi cysylltiadau trafnidiaeth gymunedol leol.

“Rydw i’n gweithio gyda’r rhanddeiliaid – gan gynnwys Lôn Las Môn sydd yn rhedeg ymgyrch wych am lwybr aml-ddefnydd – er mwyn sicrhau fod yr ased yma yn cael ei fwynhau am genedlaethau i ddod.

“Mae cynllun da arall i adfer y llinell ar gyfer trenau hefyd ar y gweill, ond dw i’n pryderu ei fod yn rhy ddrud ac mae angen symud y prosiect ymlaen – ni allwn ei adael yn segur bellach.

“Serch hynny, mae gan y gronfa arian Adfer Rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU £500 miliwn i roi ar gyfer prosiectau sydd ag achos busnes da ac mi rydwyf i mewn cyswllt gyda’r gweinidog rheilffyrdd ynglŷn â’r ddau brosiect Amlwch i Gaerwen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.