Newyddion S4C

Apêl i athrawon alltud ddychwelyd i Gymru yn sgil pryderon am recriwtio

24/05/2023

Apêl i athrawon alltud ddychwelyd i Gymru yn sgil pryderon am recriwtio

Mae apêl i athrawon sy'n siarad Cymraeg ac yn gweithio yn Lloegr i ystyried swyddi adref yn un ffordd mae ysgolion wedi bod yn ymateb i bryderon am recriwtio.

Wythnos ddiwethaf fe ddywedodd un o bwyllgorau'r Senedd y byddai'r cynlluniau ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn methu heb gynnydd sylweddol yn nifer y staff.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithredu gan gynnwys cymelliadau ariannol a grantiau.

Fe wnaeth grŵp o ysgolion yn ne ddwyrain Cymru fanteisio ar grant i gynnal ffair swyddi ar-lein yn gynharach eleni wedi'i hanelu at athrawon o Gymru sy'n gweithio dros y ffin.

Daeth yr arian o gronfa sy'n ceisio hybu ffyrdd creadigol y gallai ysgolion ddod i'r afael â heriau recriwtio.

Dywedodd Trystan Edwards, Pennaeth Ysgol Garth Olwg ger Pontypridd a chadeirydd y grŵp o ysgolion bod y sefyllfa yn "heriol" ond bod angen bod yn "bositif" a dangos "blaengaredd".

"Y gobaith yw adeiladu ar lwyddiant y fenter hon drwy gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol", meddai.

'Gweld y gwahaniaeth'

Yn ôl Sian Bradley ac Amanda Williams, dwy athrawes sydd wedi bod yn gweithio yn Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd ers mis Medi wedi blynyddoedd yn dysgu yn Llundain, mae na adnodd i'w gael tu hwnt i Gymru.

Treuliodd Sian 15 mlynedd yn dysgu yn Llundain ac yn ystod y pandemig penderfynodd geisio dychwelyd i Gymru.

Roedd hi'n awyddus i adeiladu hyder wrth ddefnyddio'r iaith eto a cafodd le ar gwrs pontio sydd fel arfer yn cefnogi athrawon cynradd i symud i'r sector uwchradd ac roedd hynny'n gymorth mawr.

Dywedodd ei bod wedi dod ar draws nifer o siaradwyr Cymraeg tra'n dysgu yn Llundain a "bod na lot o bobl i gael ond dy’n nhw ddim yn gwybod sut i symud a falle bod nhw ddim eisiau jyst mynd syth mewn i swydd". 

"Mae nhw eisiau gwneud rhywbeth sydd yn canol falle, er mwyn gweld y gwahaniaeth rhwng dysgu yn y Gymraeg a dysgu yn y Saesneg."

Image
Sian Bradley
Treuliodd Sian Bradley 15 mlynedd yn dysgu yn Llundain ac yn ystod y pandemig fe benderfynodd geisio ddychwelyd i Gymru.

Daeth Amanda Williams i'r ysgol fel pennaeth cerddoriaeth ar ôl aros yn Llundain wedi astudio mewn coleg.

Rhesymau teuluol oedd tu ôl i'r penderfyniad, ond mae'n credu ei fod yn gyfnod da i symud yn ôl gyda chwricwlwm newydd yn un diddorol i'w gyflwyno.

"I fod yn onest o’n i ddim mor ymwybodol a ‘na o beth oedd yn y cyrricwlwm yn Cymru cyn bo fi’n dechre edrych mewn i symud. Ond mae fe yn eitha cyffrous. Mae na lot o ryddid," meddai.

"Felly bydden i yn meddwl bod e yn rhywbeth byddai’n gallu denu bobl."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod angen i'r cyflenwad o athrawon sy'n dysgu Cymraeg fel pwnc ac sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd i "gynyddu'n sylweddol" i gyrraedd targedau yn ei strategaeth iaith 'Cymraeg 2050'

Erbyn 2021 y nod oedd bod 600 o athrawon uwchradd yn dysgu Cymraeg fel pwnc ond dim ond 391 oedd i gael.

Roedd na 2,004 o athrawon uwchradd yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond y targed ar gyfer 2021 oedd 2,200 er mwyn cyrraedd 4,200 erbyn 2050.

'Heriol'

Mae cynyddu'r niferoedd sy'n dechrau cyrsiau ymarfer dysgu yn parhau yn "heriol".

Dywedodd Dr Anna Bryant o Brifysgol Met Caerdydd ei bod yn edrych yn "bositif iawn" o ran recriwtio i gyrsiau ymarfer dysgu cynradd yn Gymraeg a Saesneg.

Ond o ran y pynciau prin, fel y gwyddorau, mathemateg a ieithoedd modern, yn yr uwchradd yn y ddwy iaith "dyw'r niferoedd falle ddim ble ni moyn bo nhw".

Mae denu myfyrwyr i gyrsiau ymarfer dysgu ar gyfer bron pob pwnc yn y sector uwchradd Cymraeg yn her, meddai.

Dywedodd bod sawl cynllun yn digwydd i ddod i'r afael â'r broblem allai gymryd amser i ddwyn ffrwyth, a gwaith yn cael ei wneud i hybu hyder a sgiliau Cymraeg y rhai sy'n hyfforddi i fod yn athrawon.

"Ma nifer o brifathrawon wedi dod i siarad â’r grŵp a falle’n dweud 'wel ni moyn pobol fel chi, does dim rhaid bod yr iaith yn berffaith, ni’n mynd i weithio ‘da chi ar hwnna'.

"Mae ‘da chi’r holl gymhwysterau 'ma, mae da chi’r holl sgiliau arbennig 'ma, ni moyn chi yn ein hysgol ni". 

Image
Trefor Jones
Dywedodd Trefor Jones bod llenwi swyddi fel athrawon mathemateg, Saesneg, Cymraeg yn ogystal â'r gwyddorau wedi bod yn broblem.

Mae Trefor Jones newydd symud i fod yn bennaeth mewn ysgol uwchradd ddwyieithog, Ysgol Brynhyfryd yn Ruthin, ar ôl arwain ysgol yn y sector Gymraeg.

"Dros y ddwy flynedd ddwethaf mae wedi bod yn gynyddol heriol i ni allu recriwtio," meddai.

Dywedodd bod llenwi swyddi fel athrawon mathemateg, Saesneg, Cymraeg yn ogystal â'r gwyddorau wedi bod yn broblem.

"Mae ganddoch chi ddim digon yn dod mewn i'r proffesiwn ar un ochor, a wedyn ma ganddoch chi alw cynyddol," meddai.

"Ac mae'n her wedyn i geisio llenwi’r bwlch hynny er mwyn sicrhau bod ganddoch chi athrawon Cymraeg eu hiaith dda sy’n mynd i allu addysgu’r plant yn symud ymlaen."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn gwireddu ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".

Mae cymhelliad gwerth £5,000 i bobol sy’n astudio i ddod yn athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg, a bwrsari £5,000 i gadw athrawon yn y proffesiwn, ymhlith y cynlluniau sydd wedi cael eu cyflwyno, ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.