Newyddion S4C

S4C

Amy Dowden o Strictly wedi derbyn diagnosis o ganser y fron

NS4C 24/05/2023

Mae’r Gymraes a’r ddawnswraig adnabyddus ar Strictly Come Dancing, Amy Dowden wedi datgelu ei bod wedi derbyn diagnosis o ganser y fron.

Fe dderbyniodd y ddawnswraig 32 oed o Gaerffili ddiagnosis yr wythnos ddiwethaf.

Cyhoeddodd Amy Dowden hynny ar gyfrwng Instagram, ac mae hi’n yn gobeithio bydd rhannu ei diagnosis yn helpu eraill.

“Os gallaf geisio troi’r newyddion negyddol hwn yn bositif, mae’n mynd i fy helpu i ddod trwy hyn.”

Dywedodd: “Mae gen i newyddion sydd ddim yn hawdd i'w rannu. Rydw i wedi cael diagnosis o ganser y fron yn ddiweddar ond rwy'n benderfynol o ddawnsio.”

'Mewn sioc'

Mewn cyfweliad gyda chylchgrawn ‘Hello!’ dywedodd Amy ei bod wedi dod o hyd i lwmp ym mis Ebrill eleni, cyn mynd ar ei mis mêl i'r Maldives gyda’i gŵr Ben.

“Roeddwn i yn y gawod a theimlais y lwmp caled hwn yn fy mron dde," meddai Amy.

"Roeddwn mewn sioc. Roeddwn i'n meddwl: 'Iawn, gallai fod yn ymwneud a’r mislif, neu gymaint o bethau.”

Fe aeth at y meddyg ar ôl dod adref a chael ei chyfeirio ar frys gan ei meddyg teulu. Dywedodd fod "popeth wedi digwydd mor gyflym" a chafodd wybod y byddai angen rhywun gyda hi, ar gyfer y canlyniadau.

Dywedodd mai un o'i meddyliau cyntaf oedd pa mor hir y byddai'n ei gymryd iddi ddychwelyd i ddawnsio.

Mae Amy yn dal i aros i glywed mwy cyn iddi gael cynllun ar gyfer triniaeth lawn ond dywedodd y bydd yn bendant yn cynnwys llawdriniaeth.

"Dydw i ddim yn gwybod pa gam yw'r canser eto, nes i mi gael sgan MRI a biopsi ar ail lwmp y maent wedi'i ddarganfod yn yr un fron. Unwaith y byddant wedi cael hynny, gallant roi prognosis llawn i mi,” meddai.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.