Newyddion S4C

Byw gyda MND: 'Aros yn bositif a pheidio edrych yn rhy bell i'r dyfodol'

01/06/2023

Byw gyda MND: 'Aros yn bositif a pheidio edrych yn rhy bell i'r dyfodol'

Mae dynes o Wynedd sydd yn byw gyda chyflwr Motor Niwron wedi dweud mai cadw'n bositif a pheidio "edrych yn rhy bell i'r dyfodol" sydd yn bwysig wrth ddygymod â'r cyflwr.

Yn 2007 yn 34 oed ac yn fam i dri o blant bach, fe gafodd Sioned Roberts Jones o Lanrug yng Ngwynedd ddiagnosis o gyflwr Motor Niwron.

Mae hi'n Fis Codi Ymwybyddiaeth o Motor Niwron ym mis Mehefin, sef cyflwr sydd yn effeithio ar yr ymennydd a'r cyhyrau.

Ar hyn o bryd, does dim iachâd.

Mae'r cyflwr yn effeithio hyd at 5,000 o oedolion yn y DU ar unrhyw bryd, gyda 1 ymhob 300 o bobl yn debygol o gael y cyflwr yn ystod eu bywyd. 

Gall effeithio ar oedolion o unrhyw oed, ond mae'n fwy tebygol o effeithio pobl yn hŷn na 50.

Roedd symptomau Sioned Roberts Jones yn cynnwys teimlo "crampiau yn y cyhyrau" a gwendid ar ôl geni ei mab.

Ar ôl profi'r symptomau hyn, cafodd sawl apwyntiad yn Ysbyty Walton yn Lerpwl er mwyn cael profion gwaed a sganiau MRI, a chafodd gadarnhad mai MND oedd yn effeithio arni.

Roedd derbyn y newyddion yn deimlad chwerw-felys, meddai. 

"Dwi'n meddwl ar ddiwrnod y diagnosis, doedd o ddim yn gymaint o sioc achos oedd o 'di cymryd gymaint o amsar i gael y diagnosis. Oedda nhw wedi crybwyll bod ella Motor Niwron oedd y rheswm am y symptoma' felly o'n i 'di cael dipyn o amsar i ddod i dderbyn be o'dd yn mynd ymlaen," meddai wrth Newyddion S4C. 

Image
Sioned Roberts
Cafodd Sioned Roberts Jones o Lanrug ddiagnosis o MND yn 2007

"Ar y diwrnod, o'dd o'n fwy o ryddhad gwbod be o'dd yn mynd ymlaen a sut i symud ymlaen oddi wrth y diagnosis.

"Ond y peth gwaetha dwi'n meddwl oedd gwbo' toes 'na ddim triniaeth na iachâd idda fo a hwnnw dwi'n meddwl o'dd yn brifo fwya'."

Yn sgil y diagnosis, fe wnaeth bywyd bob dydd Sioned Roberts Jones newid dros nos.

"Yr effaith mwya' oedd gorfod rhoi gwaith i fyny, natho nhw ddeud fysa hynny y peth gora' i fi 'neud i gael llai o stress ar y corff a bod delio efo Motor Niwron a teulu yn ddigon heb ddelio hefo gwaith hefyd so o'dd hwnna yn fawr i neud," meddai. 

Mae hi a'i theulu hefyd wedi gorfod addasu'r tŷ, ac roedd hyn yn rhywbeth oedd yn ei hofni.

"O'dd hwnna'n anodd, nath o newid y cartra', teimlo bod o'n amharu ar y plant achos o'dd raid ni gal 'stafall wely lawr grisia a wedyn oeddan ni'n cysgu lawr grisia a'r plant fyny grisia wedyn o'n i'n teimlo bod 'na ryw separation yn fan 'na," meddai. 

Image
Sioned a'i theulu
Mae Sioned a'i theulu wedi bod yn hel arian er mwyn codi mwy o ymwybyddiaeth o MND. 

Er bod yna fwy o ymwybyddiaeth o MND erbyn heddiw, mae yna dal ffordd i fynd yn ôl Sioned Roberts Jones. 

"Ma' jyst hel arian a codi ymwybyddiaeth mor bwysig achos yn fan 'na ma'r iachâd neu'r driniaeth yn mynd i ddwad o yn diwadd.

"Dwi'n meddwl erbyn rwan, ma' 'na lot fwy o ymwybyddiaeth, ma'r cyfryngau cymdeithasol wedi dod â hwnna'n fwy i'r wyneb, pobl fatha Doddie Weir a Rob Burrow ag eraill sydd wedi defnyddio eu platfform."

Yn 52 oed, bu farw'r cyn-chwaraewr rygbi Doddie Weir ym mis Tachwedd 2022, ac fe wnaeth ddefnyddio ei broffil er mwyn annog gwell ymchwil i MND yn dilyn ei ddiagnosis yn 2016. 

Mae Rob Burrow, sydd hefyd yn gyn-chwaraewr rygbi, yn parhau i weithio yn ddiflino er mwyn codi gwell ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Dywedodd Sioned: "Ma' nhw wedi codi ymwybyddiaeth ag yn lleol, pobl fatha ni sydd yn g'neud ein bits bach i godi'r ymwybyddiaeth, hel arian trwy 'neud petha noddedig ond dwi'n meddwl bod 'na dal waith i neud yn bendant a dal pobl allan yna, dim syniad be' 'di MND, yn enwedig pobl sy'n ca'l diagnosis yn ifanc." 

Mae hi hefyd yn teimlo bod cefnogaeth gan y Gymdeithas Motor Niwron (MND Association) wedi bod yn hollbwysig wrth gefnogi hi i ddod i delerau â'r cyflwr. 

"Pan ges i fy diagnosio, doedd gen i ddim syniad be oedd MND ond erbyn rwan, dwi'n meddwl bod gen y Gymdeithas gymaint o stwff i roi i deuluoedd ifanc i ddarllen, ma' 'na lot fwy allan yna i helpu."

Positifrwydd

Ei chyngor fyddai i gymryd bob help a chefnogaeth sydd ar gael. 

"Dwi'n meddwl i gymryd bob help sydd 'na ar gael yn bendant. Ma' rywun ella yn rhoi ei ben yn y tywod a ddim isio gwbod am betha' ag mae o'n anodd yn y dechra', a peidio darllan gormod ar y cyfrynga', i fynd trwy ffynhonnell gywir o'r MND Association a ma' 'na ddigon o wybodaeth genna' nhw. 

"I gymryd bob help a g'neud bywyd yn haws."

Mae cadw'n bositif yn hollbwysig hefyd meddai. 

"Dwi'n meddwl bo' fi'n berson positif beth bynnag ond ia, teulu a cadw fy hun yn brysur, ma' genna fi dri o wyrion bach wedyn dwi'n gwarchod yn fan 'na a jyst cadw fy hun yn brysur ag edrych ar rywbath da mewn diwrnod, peidio dwellio ar beth sydd wedi digwydd, dwi 'di medru rhoi hwnna i'r ochr.

"Does 'na ddim byd fedra i neud i newid petha felly jyst cario 'mlaen, cadw fy hun yn brysur a peidio sbio gormod i'r dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.