Mwy o docynnau i gefnogwyr pêl-droed Abertawe a Chymru
Mae rhagor o docynnau wedi cael eu rhyddhau ar gyfer rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth ac un o gemau paratoadol Cymru ar gyfer pencampwriaeth Euro 2020.
Mae’r EFL wedi ychwanegu 2,000 o seddi ar gyfer y rownd derfynol rhwng Abertawe a Brentford ddydd Sadwrn, gan ddod â chyfanswm y seddi i 12,000.
Daw’r newid yn dilyn pwysau cynyddol o fewn y gêm i ganiatáu mwy o gefnogwyr mewn stadiymau.
Fe wnaeth Prif Weithredwr yr Elyrch, Julian Winter, alw’r penderfyniad gwreiddiol i ganiatáu 10,000 o gefnogwyr yn unig yn y rownd derfynol yn “annheg”.
Cafodd y gemau ail gyfle ddim eu cynnwys yn nigwyddiadau peilot y llywodraeth, er gwaethaf cais gan yr EFL.
Wrth groesawu’r newid, dywedodd llefarydd ar ran yr EFL y bydden nhw wedi hoffi croesawu llawer mwy o gefnogwyr, ond na fydd hynny’n bosib oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Fe fydd 6,500 o gefnogwyr, yn hytrach na 4,000, hefyd yn cael mynychu’r gêm rhwng Cymru ac Albania yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 5 Mehefin.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Yn dilyn gwaith cynllunio a threfnu'r Gymdeithas a Stadiwm Dinas Caerdydd, cytunwyd y gall y gêm fynd yn ei blaen gyda 6,500 o gefnogwyr”.
Fe fydd Abertawe yn herio Brentford am 15:00, dydd Sadwrn 29 Mai, gyda Cymru yn wynebu Albania am 17:00, ddydd Sadwrn 5 Mehefin.