Boris Johnson wedi ei gyfeirio at yr heddlu yn sgil honiadau am dorri rheolau Covid

Mae'r cyn Brif Weinidog Boris Johnson wedi ei gyfeirio at yr heddlu gan Swyddfa'r Cabinet, yn sgil honiadau fod rhagor o reolau wedi eu torri yn ystod pandemig Covid-19.
Yn ôl yr adran, cafodd y mater ei gyfeirio at yr heddlu wedi i ddogfennau gael eu hadolygu, cyn ymchwiliad cyhoeddus Covid.
Cafodd Boris Johnson ddirwy y llynedd am dorri rheolau Covid yn 2020.
Wrth gyfeirio at y datblygiadau diweddaraf, mae Mr Johnson yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o'i le.
Yn ôl Heddlu'r Met, maen nhw'n asesu'r wybodaeth gan Swyddfa'r Cabinet a gafodd ei gyflwyno iddyn nhw yr wythnos ddiwethaf.
"Mae'n ymwneud â honiadau o dorri rheolau rhwng Mehefin 2020 a Mai 2021 yn Downing Street," medd llefarydd ar ran Heddlu'r Met.
Mewn datganiad i'r Times, cadarnhaodd Heddlu Dyffryn Tafwys eu bod nhw yn ymchwilio i honiadau fod rheolau Covid wedi eu torri rhwng Mehefin 2020 a Mai 2021 yn Chequers sef cartref gwledig prif weinidogion y DU.