Newyddion S4C

Cwestiynau am rôl yr heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol ac anhrefn yn Nhrelái

24/05/2023

Cwestiynau am rôl yr heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol ac anhrefn yn Nhrelái

Mae cwestiynau am rôl yr heddlu, ar ôl i ddau fachgen yn eu harddegau farw mewn gwrthdrawiad yn Nhrelái, Caerdydd nos Lun, gyda hynny'n arwain at anhrefn.  

Mae'r IOPC, sef y swyddfa annibynnol sydd yn ymchwilio i ymddygiad yr heddlu, bellach wedi cadarnhau y byddant yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad ar ôl i fideo ddangos cerbyd heddlu yn dilyn beic trydan ychydig cyn y digwyddiad. 

Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru fore Mawrth bod "bobl leol yn meddwl bo' contact gyda'r heddlu" cyn y gwrthdrawiad. 

"Dyw hynny ddim yn wir," ychwanegodd.   

Ond yn hwyr brynhawn Mawrth cyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod wedi derbyn fideo yn dangos fan y llu yn dilyn beic trydan ychydig funudau cyn y gwrthdrawiad, a bod Heddlu'r De bellach wedi cyfeirio ei hun at swyddfa'r IOPC, sydd yn ymchwilio i ymddygiad yr heddlu. 

Wrth gael ei holi ar ar raglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru fore Mercher, am ei sylwadau 24 awr ynghynt, dywedodd Alun Michael nad oedd yr hyn ddywedodd ar y pryd yn anghywir, ond bod "ffeithiau newydd wedi dod allan" a'i bod yn "bwysig iawn edrych ar yr holl ffeithiau."   

"Doedd dim fan yr heddlu yn mynd ar ôl y bechgyn pan naeth y ddamwain ddigwydd," meddai .       

Mae Heddlu De Cymru hefyd yn dweud nad oedd unrhyw gerbydau'r heddlu gerllaw adeg y gwrthdrawiad.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg yn hwyr brynhawn Mawrth, dywedodd Prif Uwcharolygydd Heddlu De Cymru Martyn Stone fod y llu wedi derbyn lluniau cylch cyfyng sy'n dangos cerbyd heddlu yn dilyn beic cyn gwrthdrawiad ffordd angheuol ar Heol Snowden.

Ond dywedodd nad oedd yna unrhyw gerbydau'r heddlu ar yr heol honno adeg y gwrthdrawiad.

"Fe wnaeth cerbyd heddlu ar Grand Avenue ymateb i'r gwrthdrawiad ac fe wnaeth swyddogion roi CPR," meddai'r Prif Uwcharolygydd.  

Yn dilyn y gwrthdrawiad, fe ymgasglodd cannoedd o bobl yn yr ardal, cafodd ceir eu rhoi ar dân, a chafodd tân gwyllt a gwrthrychau eraill eu taflu at yr heddlu. Mae nifer bellach wedi eu harestio, er dyw'r union niferoedd ddim yn glir.   

Yn ei ddatganiad brynhawn Mawrth, ychwanegodd y Prif Uwcharolygydd Martyn Stone fod 15 o swyddogion heddlu wedi gorfod cael cymorth meddygol yn dilyn yr anhrefn, gydag 11 wedi mynd i'r ysbyty a phedwar wedi eu trin yn y fan a'r lle. 

Chafodd cwestiynau gan newyddiadurwyr ddim eu hateb yn ystod y datganiad gan yr heddlu.

Yn ôl adroddiadau'n lleol, Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 oedd y ddau a fu farw nos Lun.

Roedd nos Fawrth yn dawel, gyda'r heddlu yn dweud y byddai presenoldeb plismyn yn amlwg yn yr ardal yn y dyddiau nesaf.

Mae'r berthynas rhwng yr heddlu â'r gymuned yn Nhrelái o dan bwysau yn sgil digwyddiadau nos Lun, gyda nifer yn ddrwgdybus o'r heddlu.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael ei fod yn "derbyn bo' teimladau."

"Mae pobl isio atebion yn gyflym - mae hynny'n anodd," meddai.       

Mae'r anhrefn yn Nhrelái wedi codi cwestiynau hefyd am yr heriau sy'n wynebu cymunedau, a hynny mewn ardal lle bu terfysg yn 1991. 

Dywedodd Geraint Rees sy'n gyn bennaeth ysgol uwchradd yng Nghaerdydd ei bod "wastad yn risg mewn ardaloedd dinesig erbyn hyn fel i ni 'di gweld yn Abertawe dros y blynyddoedd dwetha' 'ma lle ma' digwyddiad yn gallu sparco ymateb chwyrn.

"Ma'r heriau'n digwydd yn ifanc iawn gyda'r plant 'na, ma' 'na ganolfannau teuluol 'na lle ma' pobl 'di neud gwaith arwrol. Ma'r gwasanaethau ieuenctid wastad wedi bod â ffocws cadarn yno, ma' 'na glybiau pêl-droed i blant, ma' 'na chwaraeon o bob math. 

"Ond y realiti yw bod yr angen yn fwy na'r ddarpariaeth a wastad yn mynd i fod fydden i'n ofni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.